Ffrwd fyw o ddiwgyddiad Rhaglen Seilwaith Digidol - 8 Mai 2025
11 diwrnod yn ôl

Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous:Troedio'r Llwybr i Well Cysylltedd ar Ddydd Iau, 8 Mai 2025, ac mae gwahoddiad i chi i fynychu.
Pam y dylech chi ddod i'r digwyddiad?
Mae cael gwell band eang a gwella cysylltedd ein rhanbarth yn darparu mwy o gyfleoedd i bawb sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac yn ymweld â hi. Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i chi gael dealltwriaeth o sut mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol yn helpu i newid y sefyllfa bresennol, trwy ei mentrau parhaus, a thrafod materion hanfodol â rhai o arbenigwyr telathrebu mwyaf blaenllaw'r DU.
Byddwch yn gallu gwylio'r sesiynau panel byw yn ogystal â chyflwyno eich cwestiynau, eich sylwadau a'ch barn i'r siaradwyr trwy'r ffrydio byw.
Agenda
- Sylwadau Agoriadol: 09:30 – 09:45: Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
- Y Prif Bynciau:
- o 09:45 – 10:30: Mynd i'r afael â Chysylltedd Gwledig
- o 10:30 – 11:15: Y Rhwydwaith Gwledig a Rennir – Beth Nesaf?
- o 11:30 – 12:15: Asedau'r Sector Cyhoeddus - 4G/5G
- o 12:15 – 13:00: Rhwydweithiau Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf - Arloesi ar draws y Rhanbarth
- Sesiwn y Prynhawn: 14:15 – 14:30: Agorir gan Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.
- o 14:30 – 15:15: Buddsoddi mewn Gwerth Cymdeithasol
- o 15:15 – 16:00: Ysgogi Arbedion Effeithlonrwydd a Mewnfuddsoddi
- Sylwadau i gloi: 16:00 – 16:15: Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Ymunwch â'r Sgwrs: Gall unrhyw un ymuno â'r ffrwd fyw! Rydym yn croesawu eich cwestiynau a'ch sylwadau ynghylch pynciau trafod y panel.