Dathlu gofalwyr maeth LHDTC+ yn Sir Gaerfyrddin
11 diwrnod yn ôl

Mae Wythnos Maethu a Mabwysiadu LHDTC+ (3-10 Mawrth) yn amser i gydnabod cyfraniadau amhrisiadwy gofalwyr maeth LHDTC+ i ddarparu cartrefi diogel, gofalgar a chefnogol i blant a phobl ifanc mewn gofal maeth. Ym mis Chwefror 2025, mae dros 10% o aelwydydd maethu yn Sir Gaerfyrddin yn rhan o'r gymuned LHDTC+, gan bwysleisio amrywiaeth a chynhwysiant ein rhwydwaith gofalwyr maeth.
Mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr maeth LHDTC+ ac mae'n cynnig aelodaeth aur am ddim i New Family Social, gan ddarparu cefnogaeth, cyngor a rhwydweithio penodol i bobl LHDTC+.
Mae un o'n gofalwyr maeth, sy'n dymuno aros yn ddienw, yn rhannu ei thaith a'i phrofiadau o faethu fel unigolyn LHDTC+. Yn 47 oed, daeth yn ofalwr maeth ar ôl i'w phlant adael cartref ac mae wedi bod yn maethu ers pedair blynedd bellach.
Mae llawer o bobl yn gofyn a ydynt yn gallu maethu os ydynt yn sengl. Dechreuodd y gofalwr maeth hon ei thaith fel gofalwr maeth sengl. Cyfarfu â'i phartner presennol ychydig fisoedd ar ôl cael ei chymeradwyo. Ar ôl ychydig flynyddoedd gyda'i gilydd, penderfynon nhw symud i mewn gyda'i gilydd a dod yn ofalwyr maeth ar y cyd.
Mae bod yn LHDTC+ yn dod â chryfderau unigryw i faethu. Mae eu profiadau yn helpu plant a phobl ifanc maeth i werthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant ac maent hefyd yn fodelau rôl cadarnhaol iddynt.
Mae bod yn agored am ein rhywioldeb wedi caniatáu i blant a phobl ifanc rannu eu meddyliau a'u teimladau eu hunain gyda ni. Dywedodd plentyn 12 oed yn ein gofal wrthym eu bod yn ddeurywiol, gan eu bod yn teimlo'n gyfforddus ein bod yn agored, yn derbyn ac na fyddem ni'n barnu mewn unrhyw ffordd.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
Mae gofalwyr maeth LHDTC+ yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at faethu, gan gynnig amgylchedd diogel a meithringar i blant a phobl ifanc lle gallant deimlo eu bod yn cael eu derbyn. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir, a'n nod yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc mewn gofal maeth yn cael y gefnogaeth gywir sydd ei hangen arnynt i lwyddo.”
I unrhyw un yn y gymuned LHDTC+ sy'n ystyried maethu ond yn teimlo'n ansicr, mae gan ein gofalwr maeth un neges allweddol:
Mae'n gwbl normal cael amheuon, ond gall eich persbectif a'ch profiadau unigryw wneud gwahaniaeth sylweddol i fywyd plentyn neu berson ifanc. Gallwch chi fod yn fodel rôl, gan ddangos iddyn nhw ei bod hi'n iawn bod yn nhw eu hunain ac y gallan nhw ffynnu waeth beth fo'u hunaniaeth.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn maethu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Faethu Cymru Sir Gâr neu cysylltwch â ni i ddysgu mwy.