Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi'i hymestyn i fis Mawrth 2026
10 diwrnod yn ôl
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a gynlluniwyd yn wreiddiol i gymryd lle hen ffrydiau ariannu'r UE, yn cael ei ymestyn tan 31 Mawrth 2026, ar gyllideb lai. Roedd disgwyl i'r rhaglen bresennol ddod i ben ar 31 Mawrth 2025, ond ar ôl ystyriaeth ofalus gan Lywodraeth y DU, cytunwyd ar gyllid pellach i ganiatáu i awdurdodau lleol gyflawni a chwblhau prosiectau hanfodol.
Mae dyfarniad o £12,974,852 wedi'i gadarnhau ar gyfer Sir Gaerfyrddin a fydd yn cefnogi blwyddyn ychwanegol o brosiectau allweddol y Gronfa gan ddiwallu angen lleol. Bydd cyllid yn parhau i fod yn hyblyg, gan ganiatáu i'r Awdurdod Lleol ei deilwra yn ôl anghenion a chyfleoedd lleol yn unol â'r tri maes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi:
- Cymunedau a Lle
- Cymorth i Fusnesau Lleol
- Pobl a Sgiliau
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r rhaglen bresennol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi gweithredu newid gwirioneddol ar draws Sir Gaerfyrddin, ac mae wedi bod o fudd mawr i fusnesau, cymunedau a rhanddeiliaid. Rwy'n croesawu'r flwyddyn hon o gyllid pontio sy'n rhoi cyfle i fanteisio ar fuddsoddiad ychwanegol i gefnogi anghenion lleol. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth y DU am estyn y cyllid hwn, ac edrychaf ymlaen at weld beth all y rhaglen hynod lwyddiannus hon ei chyflawni eleni”.
Mae ceisiadau am y Gronfa Cymorth Cyflogadwyedd, y Gronfa Datblygu Sgiliau a Chymunedau Cynaliadwy 2 bellach ar agor.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais - Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Ebrill 2025 i Mawrth 2026 - Cyngor Sir Caerfyrddin