Ceisio barn ynghylch gwaith gwella ar yr A484 Heol y Sandy/Maes y Coed, Llanelli

8 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gydag AtkinsRéalis i wneud gwaith gwella i ad-drefnu cyffordd A484 Heol y Sandy/Maes y Coed yn Llanelli, er mwyn lleihau tagfeydd ar hyd y ffordd gerbydau orllewinol, gwella amseroedd teithio a diogelwch ar hyd y ffordd gerbydau.

Mae'r Cyngor Sir yn ceisio barn preswylwyr, busnesau a defnyddwyr ffordd ynghylch ei gynnig a fydd yn gwella llif y traffig ar hyd y coridor allweddol hwn i ganol dref Llanelli ac oddi yno.

Gellir gweld yr ymgynghoriad ar-lein drwy fynd i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd sesiwn galw heibio gyhoeddus yn cael ei chynnal ddydd Gwener 7 Mawrth 2025 rhwng 10am a 7pm yn Neuadd Gymunedol Ffwrnes, Heol y Strade, Ffwrnes, Llanelli, SA15 4ET, lle gall ymwelwyr weld cynlluniau'r cynnig.

Manylion y gwaith gwella arfaethedig

Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i wella dibynadwyedd amser teithio rhwng Llanelli a Phorth Tywyn drwy wella gyffordd yr A484 Heol y Sandy/Maes y Coed, drwy gyflwyno lôn benodol ar gyfer troi i'r dde. Mae'r gwelliannau i'r gyffordd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thagfeydd yn ystod oriau brig, gan sicrhau teithio mwy hwylus a dibynadwy i gymudwyr yn yr ardal. Yn ogystal, mae'r cynllun yn ceisio gwella ansawdd aer a'r defnydd o bob math o drafnidiaeth i Ysgol y Strade, Ysgol Ffwrnes a Choleg Sir Gâr ac ohonynt, yn ogystal â gwella'r cyfleusterau Teithio Llesol presennol.

Ymysg y gwelliannau allweddol y mae lôn benodol ar gyfer troi i'r dde o'r A484 Heol y Sandy i Heol Maes y Coed, a gwelliannau i'r cyfleusterau teithio llesol presennol gan gynnwys gosod croesfan a reolir newydd ar Heol Maes y Coed, a chyflwyno llinellau stop blaen i feicwyr.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith - y Cynghorydd Edward Thomas: 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â'n partneriaid rhanbarthol, yn buddsoddi'n helaeth yn Llanelli fel rhan o ymrwymiad i ddatblygu'r dref fel lle iach, bywiog a deniadol i fyw a gweithio.
"Fel rhan o'r ymdrechion hyn, mae'r Cyngor yn datblygu strategaeth drafnidiaeth i Lanelli sy'n cynnwys gwelliannau i'r Ffordd Gerbydau a chyfleusterau Teithio Llesol ar hyd yr A484 Heol y Sandy. Mae'n hanfodol felly bod y gymuned leol a defnyddwyr y ffordd yn cyfrannu at ein strategaeth sydd â'r nod o gael effaith gadarnhaol ar ansawdd aer, diogelwch i holl ddefnyddwyr y ffordd, llif y traffig a'r amgylchedd."

Mae'r ymgynghoriad ar-lein ynghylch Gwelliannau i'r A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/ Maes y Coed) ar agor tan ddydd Gwener, 28 Mawrth 2025.