Siopau Sionc Nadoligaidd yn dychwelyd i ganol trefi Sir Gaerfyrddin
3 diwrnod yn ôl
Angen syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig? Os felly, 100% Sir Gâr amdani!
Os nad ydych chi'n gwybod beth i'w brynu i'ch anwyliaid a'ch ffrindiau y Nadolig hwn, does dim angen edrych ymhellach na'r Siopau Sionc Nadoligaidd 100% Sir Gâr yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.
Am dair wythnos ym mis Rhagfyr, mae busnesau bach lleol yn cael cyfle i ddangos a gwerthu eu nwyddau ymhlith siopau cadwyn mawr ar y stryd fawr yng nghanol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman, yn ystod y cyfnod yn arwain at y Nadolig.
Fel rhan o fenter 100% Sir Gâr Cyngor Sir Caerfyrddin, mae'r Cyngor wedi sicrhau tri lleoliad gwych yn ein tair prif dref cyn y Nadolig.
Mae'r dyddiadau eleni wedi eu cyhoeddi bellach, felly dewch i ymuno â ni yn ein siopau sionc Nadoligaidd gwych sy'n llawn anrhegion crefftus, addurniadau hudolus, bwydydd a diodydd lleol a llawer, llawer mwy.
Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth y DU, trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Caerfyrddin - Hwb Menter Sir Gaerfyrddin (hen safle Top shop) Cabanau Nadolig ar Rodfa'r Santes Catrin
Wythnos 1 - Dydd Mercher 4 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 10:00-16:00
Wythnos 2 - Dydd Mercher 11 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr 10:00-16:00
Wythnos 3 - Dydd Mercher 18 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr 10:00-16:00
Llanelli – Cabanau Nadolig ar Stryd Stepney a Stryd Vaughn a Siop EE gynt
Wythnos 1 - Dydd Mercher 4 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 10:00-16:00
Wythnos 2 - Dydd Mercher 11 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr 10:00-16:00
Wythnos 3 - Dydd Mercher 18 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr 10:00-16:00
Rhydaman - Cabanau Nadolig ar Stryd y Cei
Wythnos 1 - Dydd Mercher 4 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 10:00-16:00
Wythnos 2 - Dydd Mercher 11 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr 10:00-16:00
Wythnos 3 - Dydd Mercher 18 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr 10:00-16:00
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rydym yn falch o gefnogi busnesau bach, lleol y Nadolig hwn.
Nid yw'r busnesau a'r cynhyrchwyr lleol a fydd yn masnachu o'n Siopau Sionc Nadoligaidd 100% Sir Gâr fel arfer yn cael cyfle i arddangos eu cynnyrch gwych ar y stryd fawr. Felly, dyma gyfle gwych i ni i gyd fwynhau, profi a phrynu cynnyrch sy'n cynnwys celf a chrefft, bwyd a diod, ffasiwn, nwyddau cartref, anrhegion a mwy wrth gefnogi'r economi leol. Felly, siopwch yn lleol y Nadolig hwn drwy ymweld ag un o’r siopau sionc hyn.
Mae cynllun 100% Sir Gâr wedi'i greu fel ffenestr siop rithwir gyda chymorth y cynghorau tref a chymuned a grwpiau busnes a manwerthu, i roi llwyfan i fanwerthwyr a chynhyrchwyr lleol dynnu sylw at eu cynnyrch.
Caiff manwerthwyr, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr a chrefftwyr annibynnol yn Sir Gaerfyrddin eu hannog i gofrestru i fod yn rhan o'r llwyfan, a fydd yn gyfle ychwanegol i hyrwyddo a marchnata eu busnes i gwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol.
I gofrestru, ewch i'r wefan.