Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru 2024 yn mynd yn fyw
5 diwrnod yn ôl
Fframwaith adeiladu'r sector cyhoeddus ynghylch gwaith mawr wedi'i ddyfarnu ar gyfer De-orllewin Cymru
Mae Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol newydd De-orllewin Cymru wedi mynd yn fyw ar 5 Tachwedd 2024, ac mae'n darparu llwybr i gydymffurfio â gofynion y farchnad ar gyfer unrhyw brosiectau adeiladu sector cyhoeddus yn Rhanbarth y De-orllewin.
Mae amrywiaeth o gontractwyr lleol a chenedlaethol wedi ennill lle ar y fframwaith i adeiladu, adnewyddu ac atgyweirio adeiladau ar gyfer y sector cyhoeddus dros y tair blynedd nesaf, gyda'r opsiwn o ymestyn hyn i bedair blynedd.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Abertawe, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion, yn arwain y gwaith o reoli'r fframwaith.
Bydd y fframwaith ar gael i'w ddefnyddio gan y rhanbarth cyfan a sefydliadau'r sector cyhoeddus ehangach, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, adrannau llywodraeth ganolog a'u hasiantaethau, cyrff cyhoeddus anadrannol , gweinyddiaethau datganoledig, cyrff y GIG, awdurdodau lleol, sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch, yr heddlu a'r gwasanaeth tân, mae rhestr lawn ar gael gan y Tîm Fframwaith.
Mae'r fframwaith, a sefydlwyd yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, yn darparu mynediad cyflym sy'n cydymffurfio â'r gofynion at gontractwyr blaenllaw'r farchnad. Bydd hefyd yn darparu arbedion caffael sylweddol, yn enwedig ar gontractau gwerth uchel, gyda chyrff sector cyhoeddus yn elwa ar lai o wastraff, llai o ddyblygu, ymgysylltu lleol a mwy o effeithlonrwydd.
Rhoddwyd pwyslais ar gefnogi mentrau bach a chanolig yng nghadwyn gyflenwi Cymru, mewn ymgais i gefnogi'r economi leol a hybu cyflogaeth.
Mae arferion gwerth cymdeithasol a lleihau carbon hefyd wedi bod yn ffocws allweddol i'r broses asesu.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet dros Adnoddau Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae hwn yn gyfrwng cyflawni parod, sy'n cydymffurfio'n llawn, ar gyfer gwaith adeiladu cyfalaf mawr, i'w ddefnyddio gan sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled rhanbarth de-orllewin Cymru a'r canolbarth.
Mae'n cynnig ffordd effeithlon a chydweithredol o gaffael prosiectau adeiladu, gan gyfuno arbenigedd contractwyr sydd wedi'u profi gan y farchnad.
Gall fframweithiau'r sector cyhoeddus greu gwerth cymdeithasol nid yn unig drwy'r amgylcheddau ffisegol y maent yn helpu i'w creu a'u cynnal, ond hefyd y gweithgaredd economaidd y maent yn ei gynhyrchu, yn lleol ac yn genedlaethol.
Er bod prisiau ac ansawdd wedi bod rhan fawr o brosesau caffael ers amser maith, rydym yn awyddus i barhau i gydnabod pwysigrwydd arferion gwerth cymdeithasol, nodau llesiant a chyflwyno ffocws ar leihau carbon drwy gydol y fframwaith hwn.”
Am gyngor pellach neu i gaffael gwaith drwy'r fframwaith, cysylltwch â thîm fframwaith Cyngor Sir Caerfyrddin – e-bost: TSSWWRCF@sirgar.gov.uk.