Cyngor Sir Caerfyrddin yn mabwysiadu strategaeth uchelgeisiol i gynyddu Gorchudd Coed a Choetir i 17% erbyn 2050

5 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgelu ei Strategaeth Coed a Choetir 2024-2029 newydd, gan amlinellu ymrwymiad sylweddol i gynyddu gorchudd coed a choetir ar dir y Cyngor i 17% erbyn 2050. Mae'r targed uchelgeisiol hwn yn unol ag argymhellion gan wahanol gyrff amgylcheddol, gan gynnwys Panel Newid Hinsawdd y DU, gyda'r nod o liniaru newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth.

Mae'r strategaeth newydd yn amlinellu dull cynhwysfawr o reoli coed a choetiroedd yn gynaliadwy, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wella'r amgylchedd lleol ar gyfer cymunedau a bywyd gwyllt. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y Cyngor yn gweithio tuag at darged mwy cymedrol ond pwysig fel rhan o'i nodau amgylcheddol ehangach.

Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae coed a choetiroedd yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, lleihau allyriadau carbon, a gwella ansawdd aer. Drwy wella bioamrywiaeth leol a gweithredu fel amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd, mae coetiroedd yn cyfrannu at wytnwch cymunedau ac ecosystemau yn Sir Gaerfyrddin. 

Un o'r pethau y mae'r strategaeth yn canolbwyntio arno yw integreiddio'r gwaith o blannu coed gyda mentrau Seilwaith Gwyrdd a Glas y Cyngor. Mae hyn yn cyd-fynd â'r egwyddorion a nodir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a Pholisi Cynllunio Cymru, ac yn tanlinellu pwysigrwydd arferion amgylcheddol cynaliadwy.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes yn arwain nifer o gynlluniau plannu coed llwyddiannus, gan gynnwys coetiroedd cymunedol a grëwyd yn ddiweddar yn Ffairfach a Llandybïe a phrosiectau plannu coed pellach wedi'u cynllunio ar gyfer y gaeaf hwn yn y Bynea a Llanarthne, gyda chynnydd sylweddol yn cael ei wneud o ran cynyddu gorchudd coed. Mae rheoli coetiroedd presennol i wella bioamrywiaeth hefyd wedi'i wneud gan gynnwys bôn-docio yn Ynys Dawela a phlannu coed llydanddail brodorol yn lle'r conifferiaid sydd wedi'u chwythu gan y gwynt yn Llyn Llech Owain. Mae'r ymdrechion hyn nid yn unig yn cefnogi bioamrywiaeth ond hefyd yn annog cyfraniad cymunedol, gan sicrhau y gall trigolion lleol gyfrannu'n uniongyrchol at yr effaith amgylcheddol gadarnhaol.

Yn ogystal â'r cynlluniau parhaus hyn, mae'r Cyngor yn bwriadu plannu o leiaf 9.5 hectar o goetir newydd bob blwyddyn, gan helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r heriau parhaus a ddaw yn sgil clefydau fel Clefyd Coed Ynn. Trwy gydweithrediadau iechyd y cyhoedd a phartneriaethau ag ysgolion, nod y strategaeth hefyd yw gwella ansawdd aer mewn ardaloedd trefol trwy blannu coed lle gallant gael y budd mwyaf uniongyrchol.

Nid gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn unig yw Strategaeth Coed a Choetiroedd 2024-2029, mae'n gynllun gweithredu. Mae'r strategaeth yn cynnwys Tablau Gweithredu clir, gan neilltuo cyfrifoldebau ar gyfer rheoli coed a choetiroedd, gydag arolygon diogelwch parhaus a hyfforddiant arfer gorau. Bydd Grŵp Cyflawni yn monitro cynnydd y strategaeth, gan sicrhau bod yr holl dargedau'n cael eu cyrraedd a bod y camau yn cael eu hintegreiddio i gynlluniau busnes ehangach y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae ein hymrwymiad i gynyddu gorchudd coed a rheoli ein coetiroedd yn gynaliadwy yn ymateb uniongyrchol i'r argyfyngau hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu. Trwy gydweithio â chymunedau a rhanddeiliaid lleol, gallwn adeiladu Sir Gaerfyrddin sy'n fwy gwyrdd a gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau penodol i'r sector ynghylch gwella bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys dolenni i adnoddau fel Coed Cymru a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn ogystal â deunyddiau cymorth defnyddiol a manylion cyswllt, ewch i'n tudalen we Bioamrywiaeth.