Cyngor Sir Caerfyrddin yn Lansio Ymgyrch Newydd i Leihau Sbwriel Bwyd Brys a Fêps

4 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gyhoeddi ei fod wedi lansio'i ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ddiweddaraf i fynd i'r afael â sbwriel bwyd brys a fêps untro ledled y rhanbarth. Mae'r fenter hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwaredu gwastraff yn gyfrifol ac effaith ariannol ac amgylcheddol taflu sbwriel ar ein cymuned.

Bob blwyddyn, mae sbwriel yn cael effaith fawr ar barciau, strydoedd a thirweddau naturiol Sir Gaerfyrddin. O ddeunydd lapio bwyd brys a chynwysyddion diodydd i getris a deunydd pecynnu fêps, mae sbwriel nid yn unig yn llygru ond hefyd yn arwain at gostau sylweddol. I fynd i'r afael â hyn, mae'r Cyngor yn atgoffa trigolion bod pob trosedd taflu sbwriel yn destun Hysbysiad Cosb Benodedig o £125, sy'n cael ei leihau i £95 os caiff ei dalu cyn pen 10 diwrnod. Gallai dirwyon heb eu talu arwain at achos llys a chosbau posibl o hyd at £2,500.

Mae'r ymgyrch hon yn mynd i'r afael yn benodol â'r cynnydd mewn sbwriel sy'n gysylltiedig â bwyd brys a chynhyrchion fepio. Gall cetris fêps untro a deunydd pecynnu bwyd brys aros yn yr amgylchedd, gan achosi niwed i fywyd gwyllt a chreu llanast hyll.

Mae effaith sbwriel bwyd cyflym a fêps yn amlwg ar ymylon ein ffyrdd. Yn ddiweddar codwyd pum bag llawn sbwriel ar hyd y Ffordd Gyswllt yn Llanelli, rhwng Goleuadau Halfway a Chylchfan McDonalds, gyda dau fag arall wedi’u casglu ar hyd darn byr o ffordd yn Crosshands. Ymhlith yr eitemau roedd cryn dipyn o alwminiwm a phacedi bwyd cyflym, sy’n dangos pa mor bwysig yw hi i fynd at wraidd y mater hwn. Rydym yn annog pawb i waredu sbwriel o’r fath yn gyfrifol trwy ddefnyddio biniau sbwriel neu trwy ei roi gyda’u gwastraff cartref i’w gasglu gartref.

Mae taflu sbwriel nid yn unig yn fater amgylcheddol ond hefyd yn fater o falchder cymunedol. Bob blwyddyn, mae sbwriel yn difrodi parciau, strydoedd a thirweddau naturiol Sir Gaerfyrddin. O ddeunydd lapio bwyd cyflym a chynwysyddion diod i getrisiau fêp a deunydd pecynnu, mae sbwriel nid yn unig yn llygru ond hefyd yn arwain at gostau sylweddol. Trwy gael gwared ar wastraff mewn modd cyfrifol, rydym yn gwarchod ein hamgylchedd, gan ofalu am ein cymunedau lleol.

Fel rhan o'r ymgyrch, mae'r Cyngor wedi cynhyrchu fideo byr ac effeithiol sy'n dangos eiliadau bob dydd lle mae trigolion yn dewis gwaredu gwastraff yn gyfrifol. Mae'r fideo, sydd wedi cael ei ffilmio mewn lleoliadau cyfarwydd yn Sir Gaerfyrddin, yn atgoffa gwylwyr bod dewis defnyddio bin yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Anogir trigolion i wylio'r fideo a'i rannu i gynyddu ymwybyddiaeth.

Dywedodd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:


Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud â mwy nag osgoi dirwyon; mae'n ymwneud â meithrin balchder yn ein mannau a rennir a diogelu ein hamgylchedd lleol. Drwy gymryd camau syml i waredu gwastraff yn briodol, gallwn ni i gyd gyfrannu at greu Sir Gaerfyrddin lanach a gwyrddach.
Rydym yn gwahodd pawb yn Sir Gaerfyrddin i ymuno â'r ymdrech hon. Gadewch i ni gadw ein parciau, ein strydoedd a'n mannau cyhoeddus yn lân. Peidiwch â chael dirwy o £125 - rhowch e yn y bin.”