Ciosg ar osod yn nhref Caerfyrddin
5 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am denant i gymryd prydles 12 mis mewn ciosg yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae gan y ciosg, sydd â blaen gwydr, ofod manwerthu o tua 13 metr sgwâr a gwerth rhentu o £50 yr wythnos. Mae'r gofod yn addas ar gyfer ystod eang o ddibenion, a busnesau o bob maint.
Byddai'n ofynnol i fusnesau llwyddiannus osod ffitiadau yn y gofod manwerthu. Felly, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried yn bennaf ar sail y defnydd arfaethedig ac addasrwydd o safbwynt adfywio.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r gofod ciosg sydd ar gael yng Nghaerfyrddin mewn lleoliad gwych yng nghanol y dref, sy'n gweld nifer sylweddol o ymwelwyr, yn enwedig ar ddyddiau'r farchnad ac ar y penwythnos. Dylai'r cynnig hwn fod yn ddeniadol i fusnes o unrhyw faint a allai elwa ar ofod o'r fath i gynnal ei fusnes.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 4 Rhagfyr 2024- 12 canol dydd
Cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bostio: Towns@sirgar.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth cliciwch y ddolen gyswllt hon.