Carnifal Llanelli yn dechrau dathliadau'r Nadolig mewn steil
4 diwrnod yn ôl
Daeth dros 15,000 o ymwelwyr i lenwi strydoedd canol tref Llanelli ddydd Gwener, 22 Tachwedd 2024, i ddathlu Carnifal Nadolig blynyddol y dref.
Cafodd y gwylwyr sioe wych wrth i 24 o lorïau wedi'u haddurno gludo gwahanol grwpiau cymunedol o bob rhan o Lanelli. Diolch yn fawr iawn i wirfoddolwyr Ford Gron Llanelli am gydlynu gorymdaith y carnifal ac i Owens Group, M & M Greene ac Oliver Jordan Transport am eu cefnogaeth aruthrol o ran cyflenwi a gyrru'r cerbydau.
Llongyfarchiadau i Frankie Rees, Ysgol Maes y Morfa, a Lucia Rees, Ysgol Pum Heol, a goronwyd yn enillwyr y categorïau babanod ac iau yn y gystadleuaeth dylunio goleuadau Nadolig eleni. Mae'r ddau ddyluniad buddugol yn cael eu harddangos yn y dref yn ystod cyfnod y Nadolig.
Mae'r gystadleuaeth dylunio goleuadau Nadolig yn cael ei threfnu a'i hwyluso gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Gwledig Llanelli a Chyngor Tref Llanelli, Siambr Fasnach Llanelli ac Ymlaen Llanelli.
Bydd y rhai sy'n dod yn rheolaidd i ddigwyddiad cynnau goleuadau Nadolig Llanelli, a gynhelir yn ystod y Carnifal bob blwyddyn, wedi sylwi ar oleuadau Nadolig newydd yn y dref. Mae goleuadau Nadolig newydd sbon wedi’u prynu ar y cyd ar gyfer canol y dref gan Gyngor Sir Caerfyrddin – gydag arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Gwledig Llanelli.
Carnifal Nadolig Llanelli yw un o'r digwyddiadau Nadolig cymunedol mwyaf yng Nghymru, ac fe'i cyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Gwledig Llanelli a Ford Gron Llanelli a chaiff y ffair bleser ei chyflenwi gan South Wales Showmen’s Guild.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Roedd Carnifal Nadolig Llanelli yn achlysur gwych i'r teulu ac yn ddigwyddiad gweledol ysblennydd eleni. Roedd yn wirioneddol wych gweld ysbryd cymunedol Llanelli ac ymwelwyr yn dod o bell ac agos i ddathlu gyda'i gilydd.
Mae buddsoddiad y Cyngor i uwchraddio'r goleuadau Nadolig yn dangos ein hymrwymiad i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol tref Llanelli.”