Ramblers Cymru

3 diwrnod yn ôl

Yn gynharach y mis hwn, cynhaliodd Ramblers Cymru ddigwyddiad yng Ngerddi Botaneg Cymru i gydnabod ymdrechion y gwirfoddolwyr ar brosiect uchelgeisiol i arolygu dros 2,000 cilomedr o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn Sir Gaerfyrddin.  Mae'r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y Sir yn darparu rôl bwysig o ran cysylltu cymunedau gan ddarparu mynediad i breswylwyr ac ymwelwyr i archwilio cefn gwlad hardd. Mae'r prosiect, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Ramblers Cymru, grŵp sy'n ymroddedig i roi cerdded wrth galon cymunedau ledled Cymru.

Ymunodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen â gwirfoddolwyr, wrth iddynt ddathlu eu gwaith pwysig. Ers i'r prosiect ddechrau ym mis Ebrill 2024, mae 101 o wirfoddolwyr wedi cael eu hyfforddi a defnyddio eu harbenigedd newydd i arolygu 395 cilomedr o lwybrau ledled y Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Roedd digwyddiad Ramblers Cymru yn gyfle gwych i ddiolch yn bersonol i wirfoddolwyr am eu gwaith caled yn arolygu llwybrau Sir Gaerfyrddin. Mae'r gwirfoddolwyr yn gweithio'n ddiflino i ddarparu data a fydd yn cynorthwyo'r Cyngor Sir i nodi prosiectau hawliau tramwy cyhoeddus posibl ledled Sir Gaerfyrddin, gan sicrhau bod ein cefn gwlad yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch. Mae gwaith Ramblers Cymru yn annog pobl o bob cefndir i fwynhau'r awyr agored a diogelu'r amgylchedd o'n cwmpas. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch eto i'r gwirfoddolwyr yn y gobaith y bydd mwy o bobl yn cofrestru i wirfoddoli eu hunain.

Os hoffech wirfoddoli ac arolygu llwybrau cerdded yn eich cymunedau lleol, cysylltwch â amy.goodwin@ramblers.org.uk. Darperir hyfforddiant llawn a chymorth parhaus.

I gael rhagor o wybodaeth am Ramblers Cymru, ewch i'r wefan. (Ramblers Cymru - Ramblers)