Cymorth ar gael i landlordiaid a pherchnogion eiddo gwag yn Sir Gâr
182 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau’n ymrwymedig i leihau nifer yr eiddo gwag yn y sir yn ogystal â chynyddu'r eiddo rhent sydd ar gael, ac mae'r Tîm Eiddo Gwag ar gael i ddarparu ystod o gymorth i landlordiaid a pherchnogion eiddo gwag.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a chyngor i berchnogion eiddo y mae angen eu hadnewyddu er mwyn eu defnyddio unwaith yn rhagor neu er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd safon resymol ar gyfer rhentu, ynghyd â landlordiaid presennol, megis:
- Gwybodaeth am gymorth ariannol
- Help gydag eithriadau rhag TAW
- Cyngor ynghylch gosod eiddo drwy'r Cyngor
Mae'r cymorth sydd ar gael gan y tîm yn cynnwys cyngor ynghylch cyllid a weinyddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Cynllun Prydlesu Cymru yn rhoi cyfle i landlordiaid a pherchnogion tai gwag brydlesu eu heiddo i'r Cyngor am rhwng 5 ac 20 mlynedd.
Manteision i berchnogion eiddo:
- Incwm gwarantedig a rheolaidd - Dim ôl-ddyledion na thai rhent gwag. Bydd perchnogion sy'n cofrestru ar gyfer y cynllun yn cael incwm rhent gwarantedig, a hynny ar gyfradd y Lwfans Tai lleol perthnasol.
- Telerau prydles amrywiol - Gall perchnogion gofrestru eiddo ar gyfer prydlesi rhwng 5 ac 20 mlynedd
- Rheoli'r eiddo'n llawn - Mae'r cynllun yn cynnig gwarant o gymorth priodol i denantiaid, a hynny am oes y brydles
- Gwaith cynnal a chadw'r eiddo'n cael ei wneud a'i dalu amdano - Mae'r cynllun yn cynnwys atgyweirio unrhyw ddifrod i'r eiddo a wneir gan denantiaid
- Cyllid i sicrhau bod eiddo o'r safonau y cytunwyd arnynt - Gall eiddo fod yn gymwys i gael grant o hyd at £5,000 - gall fod hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag
Mae'r cynllun Benthyciadau Troi Tai'n Gartrefi yn darparu benthyciadau ar gyfer eiddo sy'n wag am fwy na chwe mis i'w defnyddio fel cartrefi preswyl. Gellir defnyddio'r cyllid hwn ar gyfer eiddo y mae bwriad i'w werthu neu ei rentu.
Mae Gosod Syml yn Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol sy'n gweithio mewn ffordd debyg i asiantaeth gosod tai preifat, ond gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn darparu'r gwasanaeth rheoli.
Nid oes unrhyw ffioedd rheoli na gweinyddu ac fel rhan o'r pecyn platinwm, bydd perchnogion eiddo'n cael:
- Cynllun 'dod o hyd i denant am ddim’
- Incwm rhent gwarantedig sy'n cynnwys cyfnodau gwag
- Yr holl gostau atgyweirio a chynnal a chadw o ddydd i ddydd yn cael eu talu
- Tystysgrif diogelwch nwy landlordiaid am ddim
- Gwasanaeth gwres canolog a phlymwaith 24/7 am ddim
- Adroddiad profi ac arolygu trydan am ddim
- Tystysgrif perfformiad ynni am ddim
- Cyngor am ddim gan staff cymwys a rheoledig
- Rhestr cynnwys eiddo digidol a phroffesiynol
- Contractau Meddiannaeth am ddim
- Gwarant hawlildio difrod
- Dim gofyniad i gael trwydded gyda Rhentu Doeth Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am 'Gosod Syml', cysylltwch â'r Tîm Gosod Syml.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi: “Mae llawer o opsiynau ar gael i berchnogion eiddo gwag ac mae ein tîm o ymgynghorwyr yma i helpu i nodi'r cymorth mwyaf priodol sydd ar gael, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.”
“Gall y Tîm Eiddo Gwag hefyd roi cyngor i berchnogion Tai Amlfeddiannaeth (HMO) ynghylch safonau tai a diogelwch, rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth a Rhentu Doeth Cymru.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i landlordiaid a pherchnogion eiddo gwag, ewch i wefan y Cyngor.