Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau i ymuno mewn partneriaeth â gweithredwr trydydd parti sydd ag enw da i sicrhau dyfodol Harbwr Porth Tywyn
33 diwrnod yn ôl
Yn dilyn cyfarfod o'r Cabinet ddydd Llun, 14 Hydref 2024, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i symud ymlaen i ddatblygu’r opsiwn a ffefrir ganddo sef bod yr Awdurdod yn ymuno mewn partneriaeth â gweithredwr trydydd parti ag enw da i ddatblygu a chynnal Harbwr Porth Tywyn.
Mae'r Cyngor Sir wedi cynnal trafodaethau gyda phartner posibl ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer y dyfodol.
Mae Harbwr Porth Tywyn yn dal i fod yn nwylo'r gweinyddwyr ac mae deialog yn parhau i ddod â hyn i ben, cyn gynted ag sy'n bosibl yn gyfreithiol, ac i ddychwelyd yr harbwr o dan reolaeth Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor Sir dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - y Cynghorydd Hazel Evans a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun Lenny:
Mae gan y Cyngor Sir ddyletswydd gyfreithiol fel awdurdod harbwr ac fel perchennog yr harbwr i gymryd camau rhesymol i sicrhau y gellir defnyddio Harbwr Porth Tywyn yn ddiogel.
Rydym felly'n falch o allu diweddaru rhanddeiliaid a'r gymuned leol bod Cyngor Sir Caerfyrddin mewn trafodaethau gyda sefydliad sydd ag enw da y gellir ymddiried ynddo i sicrhau dyfodol hirdymor yr Harbwr.”