Y Cyngor yn lansio ymgyrch i recriwtio gweithwyr cymdeithasol
90 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ymgyrch i recriwtio gweithwyr cymdeithasol profiadol i'w timau ar draws y sir.
Prif ffocws yr ymgyrch yw 'Caru lle rydych chi'n byw ac yn gweithio' ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio annog gweithwyr cymdeithasol cymwys a phrofiadol i symud a cheisio gwell ansawdd bywyd iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.
Mae hyn yn cynnwys tynnu sylw at y gorau o'r hyn sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w gynnig a manteision di-ri byw a gweithio yn y sir, megis golygfeydd syfrdanol, bywyd nos bywiog, diwrnodau allan cyffrous ac awyrgylch sy'n addas i deuluoedd.
Bydd sesiynau gwybodaeth ar-lein yn cael eu cynnal dros sawl noson drwy gydol mis Medi a dechrau mis Hydref (11 Medi – 7 Hydref), gan roi cyfle i unrhyw un sy'n chwilio am ragor o wybodaeth i ddysgu mwy am y cyflog, y buddion a'r ffordd o fyw yn Sir Gaerfyrddin. Mae gwybodaeth fwy penodol hefyd ar gael drwy sesiynau un i un a gallant gynnwys gwybodaeth am dai, ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol a llawer mwy.
Gan fod swyddi gwag yn nhimau gwasanaethau oedolion, plant ac integredig y Cyngor, mae hefyd yn ceisio targedu gweithwyr cymdeithasol cymwys o ardaloedd o amgylch Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae ein hymgyrch recriwtio newydd yn ceisio denu gweithwyr cymdeithasol cymwys o ardaloedd ledled y DU i ystyried gyrfa yn Sir Gaerfyrddin ac i symud i'n sir wych.
Mae gennym draddodiad balch o feithrin ein gweithwyr cymdeithasol ein hunain yma yn Sir Gaerfyrddin, ond ochr yn ochr â hyn rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol profiadol i ymuno â'n timau a helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau plant ac oedolion.
Gyda thimau sydd wedi'u cefnogi'n dda a chydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy i ymuno ag un o'n sesiynau anffurfiol ar-lein lle gallant ddysgu mwy."
I gael rhagor o wybodaeth am fyw a gweithio fel gweithiwr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin neu i gofrestru ar gyfer sesiwn wybodaeth ar-lein, ewch i wefan y Cyngor.