Y Cyngor yn gwella cysylltedd digidol mewn cartrefi gofal a chynlluniau tai gwarchod
90 diwrnod yn ôl
Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ariannu rhaglen waith i wella cysylltedd digidol mewn 20 o gynlluniau tai gwarchod a 7 cartref preswyl yn y sir.
Mae'r buddsoddiad o £1.2 miliwn wedi galluogi gosod cylchedau ffeibr cyflym iawn ym mhob safle, ynghyd â rhwydweithiau wi-fi mewnol ac allanol i ddarparu mynediad cyflym i'r rhyngrwyd i breswylwyr, staff ac ymwelwyr.
Mae'r prosiect wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i breswylwyr sy'n byw mewn cartrefi preswyl sy'n eiddo i'r Cyngor a chynlluniau tai gwarchod, gan eu galluogi i gysylltu â theulu a ffrindiau yn haws ac ar unrhyw adeg. Mae hefyd yn darparu cyfleoedd i weithgareddau mwy amrywiol a hyblyg gael eu cynnal yn y cartrefi.
Un o'r cyntaf i brofi manteision yr uwchraddio oedd Cartref Preswyl Awel Tywi yn Ffair-fach, Llandeilo.
Dywedodd Steven Bird, Rheolwr Awel Tywi:
Mae'r trawsnewid ar gyfer staff a phreswylwyr wedi bod yn rhyfeddol. Cyn hyn, nid oeddent yn gallu defnyddio FaceTime i gyfathrebu â pherthnasau a'u gweld oherwydd y cysylltiad gwael. Roedd mynediad band eang yn araf a dim ond ar gael mewn rhai ystafelloedd.
Nawr, mae cysylltedd yn cwmpasu'r adeilad cyfan a hyd yn oed yn ymestyn i'r ardd! Gall pawb ddefnyddio'r mynediad ar yr un pryd heb gyfyngiadau, gan roi mynediad i liniaduron, ffonau clyfar, Netflix, WhatsApp, a'r holl gyfleusterau digidol modern rydym yn dibynnu arnyn nhw nawr."
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi:
Rwy'n falch iawn bod buddsoddiad y Cyngor wedi galluogi preswylwyr yn ein cynlluniau Tai Gwarchod a'n Cartrefi Preswyl i gadw mewn gwell cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ogystal â'u galluogi i fanteisio ar fuddion niferus y dechnoleg hon yn eu bywydau o ddydd i ddydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Bydd y gwelliannau i gysylltedd digidol ym mhob Cartref Preswyl a Chynllun Tai Gwarchod sy'n eiddo i'r Cyngor yn Sir Gaerfyrddin yn trawsnewid bywydau preswylwyr ac yn eu hannog i ddefnyddio technoleg."