Mae gan gymorth cymunedol hanfodol rôl anhepgor i oroeswyr strôc a’u gofalwyr yn Sir Gaerfyrddin
45 diwrnod yn ôl
Mae yna wasanaeth cymorth strôc Cyswllt Cymunedol newydd wedi bod yn cynorthwyo goroeswyr strôc, eu teuluoedd a gofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin yn 2024.
Comisiynir y Gymdeithas Strôc i ddarparu gwasanaeth gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i weithio gyda phobl, eu teuluoedd a gofalwyr yr effeithir arnynt gan strôc trwy gysylltu â nhw i gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i alluogi pobl i gadw gafael ar, ac adennill eu sgiliau a’u hyder i gynnal eu hiechyd, eu lles a’u hannibyniaeth trwy integreiddio cymdeithasol cynaliadwy a pherthnasoedd cymunedol cryfion.
Mae’r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau, ac fe’i harweinir ganddynt; diffinnir y term ‘cymunedau’ fel pobl sy’n byw yn yr un man neu sydd â nodwedd, agwedd neu ddiddordeb neilltuol yn gyffredin.
Trwy gydweithio, datblygodd gwasanaeth Cyswllt Cymunedol Sir Gaerfyrddin y Gymdeithas Strôc mewn partneriaeth â sefydliadau eraill y trydydd sector grŵp cerdded lles iechyd cynaliadwy. Nod y gwasanaeth hefyd yw hwyluso’r cyfle i oroeswyr stroc a’u gofalwyr ddysgu sgiliau newydd neu ddychwelyd at eu diddordebau. Gydag adferiad ar ôl strôc, mae’n bwysig anelu at annibyniaeth a chael hunaniaeth yn y gymuned.
Mae uchafu’r sgiliau a’r adnoddau sydd eisoes ar gael mewn cymunedau sy’n cydgynhyrchu â sefydliadau a grwpiau cymunedol eraill wedi galluogi pobl i barhau i fod yn weithgar ac i gymryd rhan.
Cafodd Wayne Rees, 54 mlwydd oed o Lanelli, strôc ym mis Gorffennaf 2022. Effeithiodd ar ei fywyd yn enfawr a golygodd nad yw’n gallu cerdded.
Roeddwn yn hunangyflogedig ac roedd gen i fy musnes llwyddiannus fy hun am bron i 19 mlynedd, a’r diwrnod hwnnw, diflannodd y cyfan. Roedd hi’n ofid calon colli’r busnes, gan ein bod wedi gweithio mor galed amdano. Roedd iselder eisoes arnaf cyn y strôc, ac ni chredais y gallai hyd yn oed waethygu, ond dyna a ddigwyddodd. Roeddwn mewn cwmwl tywyll, ac nid oedd yna oleuni ym mhen draw’r twnnel imi. Gyda fy ngorbryder ar ôl fy strôc, canfûm hi’n anodd gweld na chyfarfod â phobl. Roeddwn wedi mynd yn feudwy.”
Pan ddarfu i Carla o’r Gymdeithas Strôc fy ffonio, roedd hi’n hyfryd siarad â rhywun oedd yn fy neall. Siaradais am durnio coed, gan fod fy nhad wedi marw ac wedi gadael turn imi. Gwnaeth y sgwrs honno fy ysgogi i geisio’i wneud o eto, a gwnaeth Carla fy nghyflwyno i fannau gwych i wneud o.”
Ymunodd Wayne â dosbarth gwaith coed lleol, y grŵp sied dynion a grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid yn Llanelli.
Nid oedd arnaf eisiau mynd i grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid, ond cawn y fath sgyrsiau gwych. Siaradwn yn hollol agored gyda’n gilydd am ein profiadau. Mae’n gymorth mawr. Mae hi mor bwysig siarad ag eraill a gafodd strôc, a gwybod sut fath o brofiad rwyf yn ei gael.”
Mae’r sied dynion a’r grŵp turnio coed yn wych, a gwnaeth fy helpu i ganfod fy hun eto. Mae pobl gyda phob anableddau yn mynychu, ac oni bai am Carla, ni fyddwn erioed wedi clywed amdano. Mae’n gwirioneddol wneud gwahaniaeth, a rhoddodd yr hyder imi fynychu’r grwpiau hyn. I bob goroeswr strôc, cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun a bod yna gymorth a chefnogaeth sydd ar gael.”
Cafodd Robert Owens, 65 mlwydd oed o Gorslas, ei strôc yn 2018. Mae’n dymuno y byddai yna fwy o gyfleoedd pan gafodd ei strôc gyntaf i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol ac i ddysgu sgiliau.
Mae cyfarfod â goroeswyr strôc eraill a siarad am yr hyn rydym oll wedi’i brofi yn fy helpu’n fawr iawn. Byddai gallu cymryd rhan mewn prosiectau, boed hynny’n adeiladu gweithdy neu arddio, wedi fy ngwirioneddol helpu yn fy adferiad ac wedi adeiladu'r fi newydd. Byddai’n dda gennyf petai’r cyfle hwn ar gael pan gefais fy strôc. Credaf y bydd yn helpu cynifer o oroeswyr strôc ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, gan y bydd yn helpu gyda’u lles ac yn rhoi ymdeimlad o ddiben iddynt yn y gymuned unwaith eto.”
Dywedodd Lynn Preece, Swyddog Arweiniol Cyflenwi Gwasanaethau’r Gymdeithas Strôc:
Mae’n ddechrau cryf i’r prosiect; gallwn weld sut y gall cysylltu goroeswyr strôc a’u gofalwyr â chyfleoedd helpu i ailgysylltu â chymuned, gorchfygu ynysu ac ailadeiladu bywydau.
Y nod yw datblygu grwpiau cefnogaeth cynaliadwy i gymheiriaid a gweithio gyda sefydliadau cymunedol i greu cymunedau sy’n ystyriol o strôc fydd yn parhau i gael effaith am flynyddoedd lawer i ddod. Gweithiwn yn gydweithredol gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin, partneriaid Canolfan Gwasanaethau Ataliol Cymunedol, partneriaid yn y GIG a chyrff proffesiynol eraill, gwasanaeth Adferiad Strôc y Gymdeithas Strôc, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS), i sicrhau bod yna gysylltiadau di-dor rhwng gwasanaethau, fel y gall pobl gael at wasanaethau cyfannol, hyblyg i wella/gynnal eu hiechyd, lles ac annibyniaeth trwy integreiddio cymdeithasol a pherthnasoedd cymunedol cryfion.
Canolbwyntiwn hefyd ar ymwybyddiaeth o ataliad, gan amlygu gwybodaeth allweddol megis negeseuon NESA a chanolbwyntio ar wybodaeth allweddol am sut i helpu i atal strôc trwy ddigwyddiadau cymunedol. Cynigiwn sesiynau ymwybyddiaeth o strôc gyda’n gwirfoddolwyr Cyswllt Cymunedol.
Mae’n bwysig i oroeswyr strôc fagu cydnerthedd i alluogi pobl yr effeithiwyd arnynt gan strôc i fod mor gorfforol, emosiynol, feddyliol a chymdeithasol iach ag y gallant fod.”
Dywedodd Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Jane Tremlett:
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi’i ymrwymo i weithio gyda’r trydydd sector i ddatblygu gwasanaethau ataliol cymunedol fydd yn cynorthwyo preswylwyr i fyw’n dda, ac i hyrwyddo lles, annibyniaeth, a chydnerthedd. Mae ein gwaith gyda’r Gymdeithas Strôc wedi cyflawni deilliannau cadarnhaol trwy ddatblygu rhwydweithiau a chefnogaeth gynaliadwy gan gymheiriaid. Dros y misoedd i ddod, bydd comisiynwyr yn gweithio’n agos â’r Gymdeithas Strôc i bennu sut y bydd gwasanaethau’n esblygu i barhau i ddiwallu anghenion preswylwyr.”
Cynhaliodd y Gymdeithas Strôc ddigwyddiad i ddathlu cynnydd Gwasanaeth Cyswllt Cymunedol Sir Gaerfyrddin y Gymdeithas Strôc ar y 4ydd o Fedi, 2024 ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth strôc Cyswllt Cymunedol, neu os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr i’r prosiect, anfonwch e-bost, os gwelwch yn dda, at Carla.williams@stroke.org.uk.