Lansio prosiectau Treftadaeth Chwaraeon Pwysig yn Amgueddfa Parc Howard

13 diwrnod yn ôl

Mae Amgueddfa Parc Howard Llanelli yn lansio dau brosiect treftadaeth chwaraeon yr hydref hwn mewn cydweithrediad â’r Scarlets, y Rhwydwaith Treftadaeth Chwaraeon, a Chwaraeon a Hamdden Actif: Phil Bennett: Dyn Dur a Chwalu Ffiniau.

Phil Bennett: Nod prosiect Dyn Dur yw casglu straeon a phethau cofiadwy cymunedol ar gyfer arddangosfa yn Amgueddfa Parc Howard i ddathlu ei gyfraniad i Lanelli. Ysbrydolwyd y prosiect gan y rhodd ddiweddar o ffilm i'r amgueddfa gan breswylydd lleol, Rob Thomas.

Drwy gysylltiad Phil Bennett â’r dref, bydd yr amgueddfa’n cynrychioli’r cyfnod pwysig yn hanes Llanelli y bu’n byw drwyddo, wrth i’r dref drawsnewid o fod yn ardal ddiwydiannol i ganolfan greadigol a gwasanaethau. Roedd gyrfa Phil yn cyd-fynd â’r datblygiadau hyn wrth iddo adael ei swydd gynnar yng Ngwaith Dur Duport i fod yn un o chwaraewr rygbi gorau'r byd, gan ddod yn enwog am ei greadigrwydd a’i feddwl cyflym.

Mae Chwalu Ffiniau yn brosiect sy'n tynnu sylw at hanesion llai adnabyddus am ferched Sir Gaerfyrddin ym myd y campau. Deilliodd Chwalu Ffiniau o waith ymchwil Hannah Jones, gwirfoddolwr CofGâr, yr oedd ei hanes teuluol wedi ysbrydoli’r prosiect. Gyda chyllid gan y Rhwydwaith Treftadaeth Chwaraeon, nod y prosiect yw rhoi persbectif newydd ar ein treftadaeth chwaraeon ac ysbrydoli sêr chwaraeon newydd ein hoes.

Mae lansiad y prosiect wedi’i amseru’n dda o ystyried llwyddiant diweddar tri Olympiaid o Sir Gaerfyrddin, dau Baralympaidd a Thîm Pêl-droed Merched Cymru yn cyrraedd y gemau ail gyfle rhagbrofol ar gyfer Ewro 2025, yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Kosovo ar Barc y Scarlets.

Bydd CofGâr yn cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau cyhoeddus ar draws Sir Gaerfyrddin i glybiau chwaraeon, grwpiau lleol, a cholegau i dynnu eu sylw at gyfleoedd mewn chwaraeon merched ac i adrodd straeon ysbrydoledig. Bydd grŵp o bobl ifanc yn dogfennu’r straeon hyn ar ffilm a daw’r prosiect i ben gydag arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Parc Howard.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Roedd yn fraint lansio’r ddau brosiect cyffrous hyn gyda bod treftadaeth chwaraeon yn destun balchder i lawer o bobl. Mae medalau aur a enillwyd gan athletwyr Sir Gaerfyrddin yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn ysbrydoliaeth i gynifer.
Mae'r prosiectau hyn yn ein hatgoffa ni o gyfraniad hollbwysig Sir Gaerfyrddin i chwaraeon cenedlaethol…….a byd-eang ers blynyddoedd lawer. O gynhyrchu un o chwaraewyr rygbi gorau’r byd i groesawu gêm ryngwladol gyntaf Pêl-droed Merched Cymru, mae gan y sir hon etifeddiaeth chwaraeon arbennig yr ydym am dynnu sylw cenedlaethau newydd ati.”

I rannu eich straeon neu gyfrannu at y prosiectau hyn, ewch i wefan CofGâr, e-bostiwch info@cofgar.wales neu cysylltwch â CofGâr ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd dyddiadau ynghylch digwyddiadau’r prosiect yn cael eu cyhoeddi ar wefan CofGâr a sianeli cyfryngau cymdeithasol.