Ein Trefi Gwledig: Llanymddyfri

10 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'r rhaglen Deg Tref a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae trefi marchnad gwledig y sir wedi derbyn cymorth i ddatblygu prosiectau newydd cyffrous i ychwanegu bywiogrwydd a budd economaidd i'w tref. Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar Lanymddyfri, ac yn edrych ar sut y mae'r dref wedi elwa ar gyllid drwy Gyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Llanymddyfri yn agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae'r dref ar lan Afon Tywi. Mae'n llawn hanes cyfoethog, yn ddeniadol i feicwyr a cherddwyr, ac mae digonedd o fusnesau annibynnol unigryw, o siopau i lefydd bwyd a diod.

Mae amrywiaeth eang o ymyriadau wedi bod ar gael i dref Llanymddyfri fel rhan o'r rhaglen Deg Tref.

Nodwyd bod gwella economi ymwelwyr tref Llanymddyfri yn brif flaenoriaeth a chafwyd cefnogaeth i nifer o brosiectau sydd â'r nod o ddatblygu'r economi ymwelwyr:

  • Gwelliannau i'r Castell er mwyn caniatáu gwell mynediad i'r olygfan.
  • Byrddau dehongli twristiaeth, wedi'u cynllunio gan blant ysgol lleol.
  • Canopïau wedi'u brandio a chelfi stryd hygyrch i'w defnyddio yn Sgwâr y Farchnad.
  • Murlun i ddangos treftadaeth, diwylliant a hanes cyfoethog y dref, wedi'i leoli yng nghanolfan groeso'r dref.

Yng ngham olaf y prosiect hwn, gosodir sgrin wybodaeth ddigidol ym mhrif faes parcio'r dref a fydd yn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr am amwynderau, busnesau a digwyddiadau.

Mae cymorth gan y rhaglen Deg Tref hefyd wedi cefnogi datblygiad Marchnad Ffermwyr newydd yn y dref, sy'n canolbwyntio ar gynnyrch lleol o fewn cwmpas 25 milltir i'r dref. Mae'r farchnad wedi cael llwyddiant ysgubol ac wedi rhoi hwb sylweddol i nifer yr ymwelwyr â'r dref.  Cynhelir y Farchnad Ffermwyr yn Sgwâr y Farchnad hardd ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis, ac mae dros 15 o fusnesau wedi sicrhau lle masnachu.

Mae gan Farchnad Ffermwyr Llanymddyfri nifer fawr o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, ac nid yn unig y mae'n rhoi cyfle i fusnesau lleol gymryd rhan ond, yn aml, mae'n gwahodd cerddorion lleol, sy'n ychwanegu at naws unigryw'r digwyddiad. 

Dywedodd Raoul Bhambral, Rheolwr Marchnad Ffermwyr Llanymddyfri: 

Mae'r Farchnad Ffermwyr wedi bod yn atyniad gwych i Lanymddyfri ac mae wedi bod yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr. Mae cwsmeriaid, masnachwyr a busnesau lleol eraill wedi sylwi bod mwy o ymwelwyr yn y dref, sy'n wych.
 Cafwyd llawer o gefnogaeth i fwyd sydd wedi'i dyfu, ei fagu a'i gynhyrchu'n lleol. Mae'r cyfan wedi dod o ardal o fewn tua 25 milltir i Lanymddyfri. Mae'r masnachwyr wedi bod yn hapus iawn. Dwi'n meddwl bod y Farchnad Ffermwyr wedi bod yn llwyddiannus eleni oherwydd bod pobl wir eisiau prynu'n lleol, ac yma maen nhw'n gallu gwneud hynny. Rydym i gyd yn gobeithio y bydd hyn yn parhau y flwyddyn nesaf." 

Am ragor o wybodaeth am y Farchnad Ffermwyr, ewch i'r dudalen Facebook. (Facebook).

Mae busnesau yn Llanymddyfri wedi elwa ar Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n helpu i adnewyddu, gwella ac ychwanegu bywiogrwydd i flaenau siopau.

Mae 18 o fusnesau yn Llanymddyfri wedi sicrhau cyllid i wella eu safleoedd busnes. Mae gwaith ar y gweill gan y rhai sydd wedi cael cymorth ac, ar ôl ei gwblhau, bydd y dref wedi'i hadnewyddu a'i bywiogi ar gyfer ei hymwelwyr.

Bydd gwelliannau i arwyddion cefnffyrdd wrth y mynedfeydd i Lanymddyfri hefyd yn bosibl drwy'r Gronfa Mynd i'r Afael â Chanol Trefi. Ynghyd â'r gwelliannau i'r arwyddion, bydd prosiectau eraill ar raddfa fach yn digwydd i adnewyddu'r dref. Mae'r prosiect hwn yn parhau a bydd yn cael ei gwblhau erbyn dechrau'r gwanwyn nesaf.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i leihau nifer yr eiddo gwag ar draws Sir Gaerfyrddin. Bydd menter sydd wedi'i datblygu fel rhan o'r rhaglen Deg Tref yn cefnogi ailddatblygu tri safle yn y dref.

Nododd Andrew Davies, sydd wedi derbyn cymorth gan Gronfa Datblygu Cyfalaf y Deg Tref i ailddatblygu 23 Stryd Cerrig, Llanymddyfri:

Rydym mor falch ein bod wedi gallu cael cymorth gan Gronfa Datblygu Cyfalaf y Deg Tref. Bydd y cymorth a gafwyd yn ein galluogi i ailddatblygu 23 Stryd Cerrig yn siop barbwr a thrin gwallt yn y dref. Mae disgwyl i'r safle, a arferai fod yn salon trin gwallt ac sydd wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd, agor erbyn diwedd y flwyddyn, gan greu swyddi newydd yn yr ardal. Mae gallu cefnogi datblygiad Llanymddyfri a chaniatáu i fusnes newydd gael ei greu o bwys mawr ar ôl byw yn yr ardal ar hyd fy oes”.  

Ers tro, mae Llanymddyfri wedi sefydlu ei hun yn dref sy'n llawn digwyddiadau a gwyliau unigryw. Derbyniodd Calon Cymru LHDTC+ gyllid gan y Gronfa Arloesi Gwledig i dreialu digwyddiad yn y dref a fydd yn ceisio comisiynu awduron lleol a chenedlaethol i greu celf berfformio wedi'i hysbrydoli gan orffennol, presennol a dyfodol Llanymddyfri. Cynhelir y digwyddiad o'r enw Gŵyl Ymylol Calon Cymru yn y dref ar 28 Medi 2024. Sefydliad arall sydd wedi elwa yw Ynni Sir Gâr. Nod ei gynllun peilot, Bwrlwm, yw cysyniadu sut y gall Llanymddyfri fod yn dref fywiog, wydn a gwyrdd, lle mae trydan yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio'n lleol.

Cynhaliodd y dref ei Gŵyl Ddefaid enwog y mis hwn. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 14 a 15 Medi 2024 yng nghanol y dref a denodd dwristiaid o bob rhan o'r sir. Mae'r digwyddiad yn dathlu ffermio defaid a'r diwydiant gwlân ond mae hefyd yn arddangos crefftau lleol wedi'u gwneud â llaw, cynnyrch cartref ac amrywiaeth eang o artistiaid sy'n perfformio i ddarparu adloniant i ymwelwyr. Mae busnesau Llanymddyfri hefyd yn cymryd rhan drwy addurno ffenestri eu siopau ar gyfer yr ŵyl.

Aeth tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, Hwb Bach y Wlad, i Ŵyl Ddefaid Llanymddyfri eleni. Bu ymgynghorwyr arbenigol yr Hwb yn cynorthwyo preswylwyr gyda'u hymholiadau i'r Cyngor ac yn darparu bagiau gwastraff ac ailgylchu ac eitemau tlodi mislif. Yn ogystal â hyn, roedd yr ymgynghorwyr yn gallu cyfeirio preswylwyr at adrannau perthnasol y Cyngor a sefydliadau a fydd yn gallu cynorthwyo â'u hymholiadau ymhellach.

Mae Hwb Bach y Wlad wedi ailddechrau ei wasanaethau yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri. Cynhelir sesiynau ar drydydd dydd Mawrth pob mis, rhwng 10am a 3pm. Mae ymgynghorwyr yr Hwb wrth law i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys tai, addysg, a gwasanaethau iechyd a llesiant.

Am ragor o wybodaeth am Hwb Bach y Wlad, gan gynnwys pryd y bydd yn eich ardal chi, ewch i'r wefan.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:

Mae Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri yn un enghraifft o sut mae digwyddiadau llwyddiannus yn yr ardal yn dod â'r gymuned at ei gilydd ac yn helpu i gefnogi busnesau a sefydliadau lleol Sir Gaerfyrddin. Digwyddiadau unigryw fel hyn sy'n gwneud Sir Gaerfyrddin yn wych, gan ddenu ymwelwyr o bob cwr o Gymru i brofi popeth sydd gan ein sir i'w gynnig. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny'n barod, ewch i Lanymddyfri a phrofwch yr hyn sydd gan y dref i'w gynnig”. 

Mewn cais ar y cyd i Gronfa Cymunedau Cynaliadwy'r Cyngor, derbyniodd Clwb Rygbi Llanymddyfri ac Undeb Rygbi Cymru gyllid i wella'r maes chwaraeon, gan ei wneud yn addas ar gyfer pob tywydd gyda llifoleuadau LED a mannau gwylio. I ddarllen mwy, ewch i'r dudalen Newyddion.

Cafodd optometrydd ifanc oedd yn chwilio am gymorth i ddatblygu gwasanaeth newydd a allai weithredu'n ddwyieithog i gefnogi'r gymuned leol hefyd gymorth gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwy Raglen Arfor. Mae Arfor yn rhaglen ranbarthol sy'n ceisio cefnogi cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg drwy ymyriadau economaidd.

Cafodd Golwg Gofal Cyf. gymorth gan y gronfa i greu busnes newydd a chefnogi swyddi newydd yn yr ardal.

Dywedodd Sara Tidey o Golwg Gofal:

 Mae'r cymorth a gefais gan Gyngor Sir Caerfyrddin wedi bod o fudd mawr i mi wrth i mi ddechrau busnes newydd yn Llanymddyfri. Mae wedi fy ngalluogi i agor busnes newydd sy'n darparu gwasanaeth dwyieithog i'r gymuned leol, yn ogystal â chreu swyddi yn yr ardal leol. Gan fy mod wedi cael fy magu yn Sir Gaerfyrddin a bellach yn magu fy nheulu fy hun yn y sir, roeddwn bob amser yn awyddus i agor busnes yn yr ardal. Rwy'n falch fy mod wedi cael cymorth yn ystod camau cyntaf fy menter fusnes newydd”.

Gallwch ddod o hyd i Sara ar Stryd Cerrig, Llanymddyfri.

Mae Chwaraeon a Hamdden Actif wedi bod yn gweithio yn Llanymddyfri i ddarparu eu prosiect 60+. Mae Prosiect Cydlynwyr Cymorth Llanymddyfri, neu Hybu Llanymddyfri, yn fenter ddwy flynedd a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri a'i nod yw mynd i'r afael â materion yr oes fodern, fel yr argyfwng costau byw, mynediad at wasanaethau hanfodol a meithrin gwydnwch yn Llanymddyfri. Mae'r prosiect hefyd wedi cydweithio â Chanolfan Hamdden Llanymddyfri i gynnal y grŵp 'Te a chyffwrdd eich traed' bob pythefnos. Mae hanner cyntaf y sesiwn yn cynnwys siaradwr gwadd ac, yn yr ail hanner, anogir cyfranogwyr i gymryd rhan mewn ymarferion ysgafn dan arweiniad staff Chwaraeon a Hamdden Actif.  Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf ar 21 Mehefin, ac maent wedi bod yn cael eu cynnal bob pythefnos ers hynny. Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at bobl 60 oed a hŷn ac maent AM DDIM.

Bydd y sioe deithiol twristiaeth a busnes nesaf yn mynd i Lanymddyfri ddydd Mercher 6 Tachwedd, gan roi cyfle i fusnesau a grwpiau cymunedol gwrdd â swyddogion y Cyngor Sir. Bydd cyngor ar gael sy'n cwmpasu pob agwedd ar y sector twristiaeth a busnes, gan gynnwys trwyddedu, cynllunio, opsiynau ariannu, grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau, yn ogystal â chymorth marchnata.

 

Am ragor o wybodaeth am y prosiect Deg Tref, ewch i'r wefan.

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn Sir Gâr, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.