Digwyddiad Byw'n Iach yn Neuadd y Tymbl – 18 Medi
57 diwrnod yn ôl
Ymunwch â ni yn Nigwyddiad Byw'n Dda Sir Gaerfyrddin: Grymuso Ein Cymuned i Ffynnu
Neuadd y Tymbl – 18 Medi 10am - 2pm
Paratowch ar gyfer diwrnod ysbrydoledig o les, hwyl ac ysbryd cymunedol yn Nigwyddiad Byw'n Iach Sir Gaerfyrddin. Bydd y digwyddiad bywiog a deinamig hwn yn dod ag ystod eang o wasanaethau ynghyd o'r sector iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector, i gyd yn ymroddedig i ddarparu gwybodaeth werthfawr, cyngor, a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl o bob oed i fyw eu bywydau gorau.
Bydd y Digwyddiadau Byw'n Dda yn galluogi pobl i ymgysylltu ag amrywiaeth o wasanaethau a fydd yn hyrwyddo gweithgareddau ffordd o fyw ataliol, lles a dealltwriaeth o'r cymorth sydd ar gael i aros yn iach, hunanofal a pharhau'n iach gartref. Bydd gwybodaeth, gweithgareddau, a sesiynau blasu sy'n hyrwyddo atal a lles yn y gymuned wrth law i bawb ymgysylltu â chynrychiolwyr o wahanol sefydliadau am yr hyn y gallwch chi ei wneud i fyw'n dda.
Y gweithgareddau a fydd ar gael yw;
- Dros 30 o stondinau gan amrywiaeth o sefydliadau a thimau
- Gweithgareddau Chwarae a ddarperir drwy'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
- Sesiwn blasu Lindy Hop
- Sesiynau ymlacio a Sesiynau Symud yn Hawdd a ddarperir gan y Rhaglen Cleifion Arbenigol
- Sesiwn Hyfforddi Cyfeillion Dementia (rhwng 1 a 2pm – cysylltwch â Susan Smith SusanSmith@sirgar.gov.uk i gadw lle)
Bydd lluniaeth ar gael drwy gydol y sesiwn.
Am fwy o wybodaeth ewch i Bwy'n Dda yn Sir Gâr (llyw.cymru)
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Byddwn yn annog pobl o bob oed i fanteisio ar y cyfle hwn i ymuno â ni yn y Mae’r digwyddiad Byw'n Dda yn y Tymbl yn gyfle gwych I bobl o bob oedran I gymdeithasu, cael hwyl ac hefyd dysgu am yr hyn sydd ar gael yn yr ardal leol i’w cefnogi i fyw'n dda.
“Mae galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio'n dda yn amcan llesiant i'r Cyngor Sir ac yn uchelgais sy'n golygu ein bod yn gweithio ar draws sawl maes gydag amryw o bartneriaid i'w gyflawni.”
Mae digwyddiadau Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin yn gysylltiedig â'r ymgynghoriad ar Strategaeth Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin a bydd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd rannu'r hyn y mae byw'n dda yn ei olygu iddyn nhw.
Os nad ydych yn gallu mynychu'r digwyddiad ond hoffech gyfrannu at yr ymgynghoriad, gallwch gael mynediad at y cwestiynau drwy https://carmarthenshire.welcomesyourfeedback.net/s/76e4hy
Mae'r dyddiadau a'r lleoliadau canlynol hefyd wedi'u cadarnhau ar gyfer digwyddiadau Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin:
Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf – 23 Hydref 10am - 2pm
Canolfan Tywysoges Gwenllian, Cydweli - 29 Tachwedd 10am - 2pm