Blwyddyn o Gefnogaeth Drawsnewidiol i Gymunedau Gwledig gan Hwb Bach y Wlad
11 diwrnod yn ôl
Mewn un flwyddyn ers ei lansio ar 18 Medi 2023, mae Hwb Bach y Wlad wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan gefnogi dros 8,000 o gwsmeriaid a chynnal mwy na 250 o ymweliadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin. Mae'r prosiect wedi rhoi cymorth hanfodol i gymunedau gwledig, gan gynnig ystod eang o wasanaethau sydd wedi cael effaith fawr ar fywydau ei gwsmeriaid.
Fel estyniad o dair prif ganolfan Hwb y dref, mae Hwb Bach y Wlad yn dod â gwasanaethau cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn uniongyrchol i ardaloedd gwledig. Mae'r prosiect yn cynnig gwasanaethau allweddol megis budd-daliadau tai, cymorth gyda'r dreth gyngor, gwybodaeth am wastraff ac ailgylchu, ymholiadau mewn perthynas â thai, cymorth safonau masnach, ac adnoddau cyflogadwyedd.
Yn ogystal, mae Hwb Bach y Wlad wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy ei raglen "Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi", gan helpu unigolion i ddeall a hawlio eu buddion ariannol a llesiant. Y tu hwnt i hyn, mae'r tîm wedi trefnu parseli bwyd brys, trafnidiaeth ar gyfer apwyntiadau meddygol, a chymorth hanfodol yn ystod argyfyngau iechyd meddwl ac ansicrwydd ynghylch tŷ. Mae'r dull hwn sydd wedi'i deilwra wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod pob cwsmer yn cael y cymorth penodol sydd ei angen arnynt.
Un o brif ysgogwyr llwyddiant y prosiect fu ei gydweithrediad agos ag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol. Gan weithio ochr yn ochr â nifer o sefydliadau partner, mae Hwb Bach y Wlad wedi gallu cynnig pecyn gofal cynhwysfawr i'r rhai mewn angen. Mae ymweliadau rheolaidd â hybiau cymunedol fel banciau bwyd, canolfannau hamdden a martau ffermwyr lleol wedi gwneud y gwasanaethau hyn yn hygyrch iawn.
Mae'r prosiect hefyd wedi ymgysylltu â digwyddiadau amrywiol a sesiynau galw heibio cymunedol yn y sir, gan estyn ei gyrhaeddiad drwy ymdrechion cyson ac eang. Drwy weithio mewn partneriaeth ag ystod amrywiol o sefydliadau, mae Hwb Bach y Wlad yn sicrhau bod preswylwyr gwledig yn cael eu cysylltu â'r sbectrwm llawn o gymorth sydd ar gael.
Mae'r gallu i gynnig gwasanaethau dwyieithog i'w holl gymunedau yn arbennig o bwysig i Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae holl ymgynghorwyr Hwb yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac yn sicrhau cyfathrebu clir a chyfforddus i gwsmeriaid. Mae Hwb Bach y Wlad hefyd wedi mynd ati i gyfeirio unigolion i Goleg Sir Gâr i gael rhagor o gefnogaeth Gymraeg, gan gryfhau ei gysylltiad â chymunedau lleol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r straeon personol sydd wedi dod i'r amlwg o Hwb Bach y Wlad yn dweud llawer am effaith y prosiect. Mae'r cymorth sy'n cael ei gynnig wedi cynyddu incwm aelwydydd, lleddfu ansicrwydd bwyd, ac wedi darparu adnoddau llesiant i'r rhai sy'n wynebu heriau iechyd meddwl. Rhannodd un cwsmer, "Newidiodd Hwb Bach y Wlad fy mywyd pan nad oeddwn yn gwybod ble i droi. Fe wnaethant fy helpu i gael gafael ar fudd-daliadau nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt, ac roedd y gefnogaeth wir yn werth chweil.
Dros dymor diweddar yr haf, mae'r tîm wedi mynd i sioeau amaethyddol a digwyddiadau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin i ddarparu cefnogaeth hanfodol i gymunedau gwledig ac, wrth i Hwb Bach y Wlad symud i'w ail flwyddyn, mae'n parhau i fod yn ymrwymedig i gyrraedd hyd yn oed mwy o breswylwyr gwledig.
Canmolwyd effaith y prosiect gan y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gartrefi:
"Mae Hwb Bach y Wlad wedi bod yn achubiaeth i gynifer o'n preswylwyr gwledig, gan ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth hanfodol y gallent fod wedi cael trafferth eu defnyddio fel arall.
Mae llwyddiant y prosiect yn ei flwyddyn gyntaf yn dyst i ymroddiad y tîm a'n partneriaid. Rydym yn falch o'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â'r gwaith hwn, gan sicrhau bod pob cymuned yn Sir Gaerfyrddin yn cael yr help a'r gofal y maent yn eu haeddu."
Bydd Hwb Bach y Wlad yn ymweld â'r lleoliadau canlynol dros y misoedd nesaf
Lleoliad |
Amlder |
Clwb a Sefydliad Gweithwyr Cross Hands |
Dydd Gwener 1af a 3ydd Dydd Gwener y mis - 10am-3pm |
Canolfan Cymunedol Cwmaman |
2il ddydd Gwener y mis - 10am-3pm |
Canolfan y Dywysoges Gwenllian, Cydweli |
2il ddydd Llun y mis - 10am-3pm |
Neuadd Goffa Talacharn |
2il ddydd Mercher y mis - 10am-3pm |
Neuadd Ddinesig Llandeilo |
Dydd Iau 1af a 3ydd dydd Iau y mis - 10am-3pm |
Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri |
3ydd dydd Mawrth y mis - 10am-3pm |
Clwb Rygbi Llanybydder |
Dydd Iau olaf y mis - 10am-3pm |
Neuadd Cawdor Castellnewydd Emlyn |
Dydd Mercher 1af y mis - 10am-2pm |
Y Gât, Sanclêr |
3ydd dydd Mawrth y mis - 10.30am-3pm |
Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar Daf |
2il ddydd Mawrth y mis - 10am-3pm |