Digwyddiadau Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin
117 diwrnod yn ôl
Bydd cyfres o Ddigwyddiadau Byw'n Dda, a gynhelir gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn cael eu cyflwyno ledled y sir dros y misoedd nesaf, gyda’r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn ar ddydd Gwener, 16 Awst.
Gyda’r nod o gefnogi trigolion Sir Gaerfyrddin o bob oed, mae’r Digwyddiadau Byw'n Dda yn galluogi pobl i ymgysylltu ag ystod o wasanaethau a fydd yn hyrwyddo llesiant, gweithgareddau ataliol sy'n gysylltiedig â ffordd iach o fyw a dealltwriaeth o'r cymorth sydd ar gael i aros yn iach, hunanofal ac aros yn iach gartref.
Bydd y digwyddiadau i bob oed yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau o bob rhan o'r Cyngor Sir, y Bwrdd Iechyd a'r trydydd sector sy'n hyrwyddo atal a llesiant yn y gymuned. Bydd gwybodaeth, gweithgareddau a sesiynau rhagflas ar gael i drigolion, a fydd yn eu galluogi i ymgysylltu â chynrychiolwyr o wahanol sefydliadau am yr hyn y gallwch ei wneud i fyw'n dda.
Mae'r mathau o weithgareddau a fydd ar gael yn cynnwys gweithgareddau chwarae, sesiynau rhagflas Hamdden Actif, sesiynau ymlacio, celf a chrefft a mwy.
Bydd lluniaeth hefyd ar gael.
Mae'r dyddiadau a'r lleoliadau canlynol wedi'u cadarnhau ar gyfer digwyddiadau Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin:
Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn - 16 Awst 10am - 2pm
Neuadd Y Tymbl – 18 Medi 10am - 2pm
Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf – 23 Hydref 10am - 2pm
Canolfan Tywysoges Gwenllian, Cydweli - 29 Tachwedd 10am - 2pm
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio'n dda yn amcan llesiant i'r Cyngor Sir ac yn uchelgais sy'n golygu ein bod yn gweithio ar draws sawl maes gydag amryw o bartneriaid i'w gyflawni.
Byddwn yn annog pobl o bob oed i fanteisio ar y cyfle hwn i ymuno â ni yn y digwyddiadau Byw'n Dda i ddysgu am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal leol i gefnogi pobl o bob oed i fyw'n dda.”
Mae’r digwyddiadau Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin yn gysylltiedig â’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin gan roi cyfle i'r cyhoedd rannu'r hyn y mae byw'n dda yn ei olygu iddyn nhw.