Cadeirydd y Cyngor Sir yn lansio ymgyrch codi arian ar gyfer elusennau
72 diwrnod yn ôl
Mae'r Cynghorydd Handel Davies, yr aelod dros Ward Llanymddyfri a Chadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi dewis LATCH Elusen Canser Plant Cymru a Prostate Cymru fel ei elusennau yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
Yn ogystal â'i ddyletswyddau fel Cadeirydd y Cyngor Sir yn ystod 2024/25, bydd y Cynghorydd Davies yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer dwy elusen sy'n agos at ei galon.
Mae LATCH Elusen Canser Plant Cymru yn cefnogi plant a'u teuluoedd sy'n cael triniaeth am ganser a lewcemia yn Hosbis Plant Cymru.
Prostate Cymru yw prif elusen iechyd y prostad yng Nghymru, ac mae'n cefnogi dynion â chlefyd prostad anfalaen a chanser y prostad.
Gall pobl sy'n dymuno cyfrannu at yr achosion teilwng iawn hyn wneud hynny trwy ymweld â thudalennau Just Giving y Cadeirydd.
Mae Handel Davies yn codi arian ar gyfer LATCH Elusen Canser Plant Cymru
Mae Handel Davies yn codi arian ar gyfer Prostate Cymru
Gellir dod o hyd i fanylion am weithgareddau codi arian y Cynghorydd Davies a'i ymrwymiadau drwy dudalen Facebook Cadeirydd y Cyngor Sir.
Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ymhlith dyletswyddau'r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i'r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a'u cefnogi.
Wrth lansio'r dudalen Just Giving dywedodd y Cynghorydd Handel Davies, Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae'n anrhydedd mawr gwasanaethu fel Cadeirydd y Cyngor Sir. Fel Cadeirydd, rwy'n ffodus iawn i gael y cyfle i ymweld ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar draws ein sir, sy'n adlewyrchu cymeriad caredig a gweithgar ein preswylwyr, ein cymunedau a'n sefydliadau.
Rwy' wedi cael fy ysbrydoli gan y bobl rwy' wedi cwrdd â nhw yn fy rôl, a hoffwn hefyd ddefnyddio fy amser fel Cadeirydd i godi cymaint o arian â phosib ar gyfer LATCH Elusen Canser Plant a Prostate Cymru.”