Ysgol Maes y Gwendraeth yn derbyn Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr

50 diwrnod yn ôl

Mae Ysgol Maes y Gwendraeth wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad a'i chefnogaeth eithriadol i ofalwyr ifanc sy'n mynychu'r ysgol. Mae'r ysgol wedi ennill Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, sef cymeradwyaeth a gyflwynir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac a gefnogir gan awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae'r fenter Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, a gafodd ei chynllunio i ddechrau i wella ymwybyddiaeth gofalwyr o fewn cyfleusterau iechyd fel  practisau meddygon teulu ac ysbytai, bellach yn ymestyn ei chyrhaeddiad i sefydliadau sy'n ymroddedig i nodi a chefnogi gofalwyr o bob oed. Dangosodd Ysgol Maes y Gwendraeth ei hymrwymiad drwy gyflwyno tystiolaeth yn Gymraeg a llwyddo i fodloni'r meini prawf ar draws chwe thema: Arweinydd Gofalwyr, Hyfforddiant Staff, Adnabod, Gwybodaeth a Chymorth i Ofalwyr a Gwerthuso.

Mae'r wobr hon yn pwysleisio ymdrechion ar y cyd rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a'r GIG i gefnogi gofalwyr yn y gymuned. Mae sawl ysgol uwchradd yn y rhanbarth hefyd wedi cymryd rhan yn y fenter hon, gyda llawer yn derbyn gwobrau tebyg.

Pwysleisiodd Rhian Adams, Dirprwy Bennaeth Ysgol Maes y Gwendraeth, bwysigrwydd y gydnabyddiaeth hon gan ddweud:

Ystyr gofalwr yw rhywun, o unrhyw oedran, sy'n rhoi cymorth di-dâl i aelodau o'r teulu neu ffrindiau na fyddai'n gallu dygymod heb y cymorth hwn. Gallai hyn gynnwys gofalu am berthynas, cymar neu ffrind sy'n sâl, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu broblemau camddefnyddio sylweddau. Gall unrhyw un fod yn ofalwr; yn y rhan fwyaf o achosion nid yw bod yn ofalwr yn ddewis, mae'n rhywbeth sy'n digwydd."

Canmolodd Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, lwyddiant yr ysgol gan ddweud:

Rydym yn hynod falch o Ysgol Maes y Gwendraeth am ennill gwobr Lefel Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymroddiad yr ysgol i gefnogi gofalwyr ifanc a sicrhau eu bod yn cael yr help sydd ei angen arnynt i ffynnu yn academaidd ac yn bersonol."

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr neu i gael cyngor gwerthfawr i ofalwyr, ewch i: Gwybodaeth i ofalwyr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel