Cystadleuaeth Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin 2024: Grymuso Entrepreneuriaid Ifanc

53 diwrnod yn ôl

Roedd Cystadleuaeth Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin 2024 yn llwyddiant ysgubol, gan nodi carreg filltir o ran meithrin ysbryd entrepreneuraidd ymhlith ieuenctid y sir. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad y llynedd yng Nghanol Tref Llanelli, estynnodd Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin y gystadleuaeth i gynnwys Gaerfyrddin a Rhydaman, gan roi cyfle unigryw i dimau ysgolion brofi masnachu yn uniongyrchol.

Roedd y gystadleuaeth, a gynhaliwyd ar 15, 16 a 17 o Fai yng nghanol y trefi bywiog, wedi arddangos creadigrwydd a sgiliau entrepreneuraidd cyfranogwyr ifanc. Derbyniodd pob tîm ysgol £150.00, a roddwyd yn hael gan noddwyr lleol, i fuddsoddi mewn deunyddiau neu gynhyrchion ar gyfer eu stondinau. Gyda chefnogaeth athrawon a mentoriaid, ymchwiliodd myfyrwyr i gymhlethdodau entrepreneuriaeth, meistroli sgiliau megis dod o hyd i gynhyrchion am brisiau cyfanwerthu, negodi bargeinion a mireinio eu galluoedd cyflwyno.

Cafodd y myfyrwyr eu beirniadu yn ôl eu gallu i gynhyrchu refeniw a chyflwyniad eu stondinau. Cyflwynwyd tlysau a thystysgrifau enillwyr i'r perfformwyr gorau, gan ddathlu llwyddiant ariannol a dawn greadigol. Derbyniodd ysgolion gydnabyddiaeth am eu hymdrechion, gyda chyfanswm y gwerthiannau yn fwy na £4500, gan gyfrannu at brosiectau a mentrau yn y gymuned yn y dyfodol.

Yn Llanelli, enillodd Ysgol Dewi Sant deitl y stondin a gyflwynwyd orau gyda sgôr wych o 104 allan o 108 pwynt. Fodd bynnag, Ysgol Penygaer gafodd yr elw cyffredinol uchaf o werthiannau, gan sicrhau'r lle ar y brig.

Yn y digwyddiad yng Nghaerfyrddin, cafodd Ysgol Y Dderwen ei chydnabod am gael y stondin a gyflwynwyd orau, ac Ysgol Porth Tywyn enillodd am eu perfformiad ariannol rhagorol.

Yn Rhydaman, dangosodd Ysgol y Bedol entrepreneuriaeth glodwiw, gan werthu allan cyn i'r digwyddiad ddod i ben, gan eu gwneud yn enillwyr teilwng.

Mae'r cyflawniadau rhagorol hyn yn tynnu sylw at dalent, arloesedd ac ymroddiad y cyfranogwyr ifanc, gan adlewyrchu llwyddiant Cystadleuaeth Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin wrth feithrin arweinwyr busnes y dyfodol.

Gwnaed llwyddiant y gystadleuaeth yn bosibl trwy ymdrechion cydweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, a Phartneriaeth Gymunedol Llanelli, gyda chefnogaeth hael gan Ymlaen Llanelli, Cwmni AGB Caerfyrddin, Siambr Fasnach Llanelli, Siambr Fasnach Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Tref Caerfyrddin, Cyngor Tref Caerfyrddin, a Foothold Cymru.

Wrth edrych yn ôl ar y digwyddiad, diolchodd yr ysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth am y cyfle i gymryd rhan mewn menter fusnes yn y byd go iawn gan ddylunio, cynhyrchu a gwerthu cynhyrchion a grëwyd ganddyn nhw. Mae'r adborth hynod gadarnhaol yn tanlinellu gwerth mentrau fel Cystadleuaeth Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin wrth feithrin y meddylfryd entrepreneuraidd ymhlith pobl ifanc.

Dywedodd y cyfranogwyr Celyn ac Afa-Hâf:

Yn fy marn i, fe wnaethon ni ddysgu sawl sgil newydd drwy gydol y prosiect, fel gwaith tîm, amynedd, dyfalbarhad, cyfrif arian a gweithio o fewn cyllideb, rhifedd, cyfathrebu, ymchwil a datrys problemau.  Rwy'n credu mai'r sgiliau pwysicaf rydw i wedi'u datblygu drwy wneud y prosiect hwn oedd gwaith tîm ac amynedd oherwydd bydd y sgiliau hyn yn ein helpu yn ein bywydau o ddydd i ddydd ac yn ystod unrhyw brosiectau eraill rydyn ni'n cymryd rhan ynddynt yn y dyfodol." 

Dywedodd Rosina, cyfranogwr:

Roedd y prosiect hwn yn hwyl, a hoffwn gymryd rhan mewn prosiect tebyg eto.  Fe wnes i fwynhau gwneud y canhwyllau a ddatblygodd fy ngwybodaeth am greu canhwyllau a sut i gadw'n ddiogel wrth ddefnyddio hylifau poeth." – Rosina