Oriau agor hirach yng Nghanolfan ailddefnyddio Eto

66 diwrnod yn ôl

Mae Canolfan Eto sef y ganolfan ailddefnyddio yn Nantycaws wedi ymestyn ei horiau agor - gan ei gwneud hi'n haws i breswylwyr atgyweirio, ailddefnyddio ac ail-bwrpasu.

Bydd Canolfan Eto nawr ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul rhwng 10am a 4pm.

Mae eitemau wedi'u hatgyweirio, eu hailddefnyddio a'u hailbwrpasu ar gael i'w prynu yn y ganolfan yn Nantycaws neu ar-lein. Gall preswylwyr hefyd gyfrannu at y prosiect drwy roi eitemau yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Mae Eto yn ymdrin ag ystod eang o eitemau, gan gynnwys pren, offer gardd, beiciau, eitemau trydan, dodrefn, dillad, teganau, a mwy, mewn mannau casglu dynodedig sydd wedi'u lleoli ym mhob un o'r 4 Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y sir.

Sefydlwyd Canolfan Eto gan Gyngor Sir Caerfyrddin a CWM Environmental er mwyn helpu i greu economi gylchol yn Sir Gaerfyrddin, gan gadw eitemau mewn defnydd am fwy o amser a'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny. Ariennir y prosiect gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Fel yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, mae'n bleser gen i gyhoeddi oriau agor estynedig canolfan ailddefnyddio Canolfan Eto. Mae'r fenter hon nid yn unig yn ei gwneud yn fwy cyfleus i'n preswylwyr gymryd rhan mewn arferion cynaliadwy ond hefyd yn cryfhau ein hymrwymiad i economi gylchol yn Sir Gaerfyrddin.
Drwy annog atgyweirio, ailddefnyddio ac ail-bwrpasu eitemau, rydym yn cymryd camau sylweddol tuag at leihau gwastraff a diogelu ein hamgylchedd. Rwy'n gwahodd pawb i ymweld â Chanolfan Eto, p'un ai i brynu eitemau wedi'u hadnewyddu o safon neu i gyfrannu drwy roi eitemau nad oes eu hangen arnynt mwyach."

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i sirgar.llyw.cymru/eto