Mae gofalwr maeth Sir Gaerfyrddin yn gobeithio y bydd rhannu profiadau faethu yn annog rhagor o bobl i ddod yn ofalwyr

63 diwrnod yn ôl

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth™ eleni, mae Maethu Cymru Sir Gâr yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gefnogi pobl ifanc lleol mewn angen.

Mae ymchwil ddiweddar gan Maethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol – yn dangos nad yw pobl yn gwneud cais i ddod yn ofalwyr oherwydd nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a’r profiad ‘cywir’.

Yn eu llyfr newydd – Dewch â rhywbeth at y bwrdd – mae Maethu Cymru’n tynnu sylw at y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig – megis sicrwydd pryd o fwyd rheolaidd, amser gyda’r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd. 

Mae gan Dewch â rhywbeth at y bwrdd dros 20 rysáit, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; beirniad Young MasterChef, Poppy O’Toole; a’r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu ryseitiau. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys yr athletwraig ac ymgyrchydd dros ofal maeth, Fatima Whitbread, a fu mewn gofal.

Fe gyfrannodd cyn-gystadleuydd y Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a’r ddigrif-wraig Kiri Pritchard McLean ryseitiau hefyd – gan dynnu o’u profiadau personol fel gofalwyr maeth.

Gofalwr maeth o Sir Gaerfyrddin yn rhannu ei thaith yn maethu merch oedd ond yn bedair oed pan gyrhaeddodd gyntaf, “Mae hi bellach yn ei blwyddyn olaf yn yr ysgol ac wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae ganddi anghenion ychwanegol a dyw hi ddim yn gallu byw’n annibynnol heb gymorth.”

Fel llawer o blant mewn gofal maeth, mae cysondeb a theimlo'n rhan o'r teulu yn chwarae rhan bwysig wrth gynnig cartref sefydlog. Eglurodd y gofalwr maeth “Rydyn ni’n cymryd gofal i gynnal cysondeb yn ein gweithgareddau dyddiol. Er enghraifft, rydyn ni’n rhoi cynlluniau prydau wythnosol iddi fel ei bod hi’n gwybod pa brydau y byddwn ni’n eu bwyta a phryd, ond rydyn ni hefyd yn rhoi’r rhyddid iddi ddewis os yw hi eisiau rhywbeth gwahanol.”

“Mae fy mhlant fy hun yr un mor ymroddedig â mi, i'r pwynt eu bod yn fodlon gofalu amdani hi os a phan allaf i ddim gwneud hynny. Y cysondeb a’r sefydlogrwydd rydyn ni’n ei ddarparu sy’n rhoi’r annibyniaeth fwyaf iddi.”Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu profiadau go iawn.

Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu profiadau go iawn

I lansio’r llyfr bydd Colleen Ramsey, awdur ‘Bywyd a Bwyd, Life Through Food’, yn cynnal gweithdy coginio i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Byddant yn dysgu rysáit newydd  a sgiliau coginio hollbwysig i gymryd gyda nhw i’w bywydau annibynnol yn y dyfodol.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y llyfr coginio hefyd.

Sophia Warner, Cymraes sy’n ddarlunydd, ymgyrchydd ac yn berson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal greodd ddarluniau a rhagair y llyfr:

“Pan oeddwn i’n iau, dw i’n cofio croesholi fy mam faeth ynglŷn â tharddiad y bwyd y byddai’n ei baratoi. Roeddwn i’n mynnu ei fod yn dod o Aberhonddu, sef milltir sgwâr fy mhlentyndod. Fe ysgrifennais ‘Bolognese Aberhonddu’ ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.

“Mae’r rysáit yn annwyl iawn i mi, gan mai dyma’r pryd o fwyd cyntaf ges i pan symudais i mewn i'm cartref maeth. Soniais fod fy mam enedigol arfer ei baratoi i mi, ac aeth fy mam faeth ati i’w baratoi i mi. Wrth i mi eistedd wrth y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, cefais deimlad cynnes – teimlais fy mod yn perthyn a chefais groeso cynnes.”

Mae angen rhagor o deuluoedd maeth ledled Cymru 

Bob mis Mai mae Pythefnos Gofal Maeth™ – ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Mae’r ymgyrch yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o ofalwyr maeth.

Yng Nghymru mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Mae Maethu Cymru wedi cychwyn ar eu nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Plant – y Cynghorydd Jane Tremlett: “Mae Pythefnos Gofal Maeth yn rhoi cyfle arall i ni ddweud diolch i’n gofalwyr maeth yn Sir Gaerfyrddin am eu hymroddiad eithriadol i gefnogi ein pobl ifanc.”

“Mae'r ymgyrch 'Gall pawb gynnig rhywbeth' a'r llyfr coginio yn pwysleisio arwyddocâd pethau bach a all effeithio'n fawr ar fywydau plant. Mae hefyd yn dangos amrywiaeth ein cymuned faethu yng Nghymru. Rydyn ni’n gwahodd pawb i ystyried beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig i’n plant mewn gofal maeth.”

Bydd y llyfr coginio’n cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru, a gellir lawrlwytho fersiwn digidol o: maethucymru.llyw.cymru/gall-pawb-gynnig-rhywbeth

Er mwyn darganfod rhagor am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i sirgar.maethucymru.llyw.cymru neu ffoniwch 0800 0933 699