Cystadleuaeth Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin 2024

79 diwrnod yn ôl

Dewch i gefnogi masnachwyr ifanc Sir Gâr ym mis Mai.

Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus iawn yng Nghanol Tref Llanelli yn 2023, mae Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin wedi ymestyn rhifyn eleni Cystadleuaeth Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin i bob un o dair prif dref y sir.

Yng nghystadleuaeth Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin 2024 rhoddir profiad masnachu mewn marchnad i dimau ysgol o Gaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman, gyda'r nod o annog ein pobl ifanc i fod yn entrepreneuriaid y dyfodol.

Bydd gan un tîm o bob ysgol sy'n cymryd rhan stondin i fasnachu am un diwrnod yn unig. Caiff pob tîm £150.00, wedi'i ariannu gan noddwyr lleol, i'w wario ar ddeunyddiau neu gynhyrchion i'w gwerthu ar ei stondin. Bydd disgyblion yn cael profiad ymarferol o sefydlu busnes ynghyd â dysgu sgiliau busnes allweddol, fel prynu am gost masnach, prynu am brisiau gostyngol a bargeinio am brisiau.

Bydd Cystadleuaeth Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin yn digwydd yn:

Canol Tref Caerfyrddin ddydd Mercher, 15 Mai

Canol Tref Llanelli ddydd Iau, 16 Mai

Canol Tref Rhydaman ddydd Gwener, 17 Mai

Ym mhob digwyddiad, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn ymyl y marchnadoedd.        

Rhaid i bob tîm benderfynu pa gynnyrch neu wasanaeth mae am ei werthu ar y diwrnod, ond mae'n rhaid mai syniad y tîm ei hun ydyw. Anogir y disgyblion sy'n cymryd rhan i gynllunio eu syniad, prynu'r cynhyrchion maent am eu gwerthu, neu'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud eu cynnyrch, brandio ac addurno eu stondin a rhoi ystyriaeth i gyflwyno'u stondin yn ddwyieithog.

Mae'r meini prawf ar gyfer ennill y gystadleuaeth yn syml - y grŵp sy'n gwneud y mwyaf o arian wedi un diwrnod o fasnachu sy'n ennill. Bydd y beirniaid hefyd yn dewis y stondin sydd wedi'i gyflwyno orau ar y diwrnod.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - y Cynghorydd Ann Davies:

Mae'n wych bod Cystadleuaeth flynyddol Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin yn cael ei hymestyn eleni, gan fod y gystadleuaeth hon yn gyflwyniad arbennig o dda i'n pobl ifanc i fyd busnes. Drwy roi presenoldeb iddyn nhw ym marchnadoedd ein trefi, rydym ni hefyd yn gobeithio eu cael i sylweddoli beth yw gwerth economi leol i gymdeithas. 
Rwy'n edrych ymlaen at weld yr amrywiol fentrau busnes fydd gan ein pobl ifanc ac yn annog pawb i ddod draw i ymweld â stondinau'r Masnachwyr Iau i ddangos eich cefnogaeth.”

Mae Cystadleuaeth flynyddol Masnachwyr Iau Sir Gaerfyrddin yn cyd-fynd â thrydydd amcan Cyngor Sir Caerfyrddin, sef galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.