Cyngor yn parhau i ddarparu tai newydd i bobl leol

63 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau â'i ymrwymiad i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn y sir, ac mae 12 o ddatblygiadau newydd i fod i gael eu hadeiladu eleni.

Disgwylir dechrau adeiladu tai newydd yn Llanelli Caerfyrddin, Llansteffan, Llanymddyfri a Llanddarog eleni, yn ogystal â 14 o ddatblygiadau eraill ar y gweill a byddant yn darparu 435 o dai newydd sy'n eiddo i'r Cyngor dros y tair blynedd nesaf. Bydd y tai hyn yn Rhydaman, Alltwallis, Llangadog, Llanllwni, Meidrim, Pentywyn, Gorslas, Llangennech a Chydweli.

Bydd y tai yn darparu lle byw modern sy'n effeithlon o ran ynni ar gyfer pobl sengl, teuluoedd a phreswylwyr y mae angen llety arbenigol arnynt trwy fannau byw â chymorth. 

Mae 147 o dai newydd sy'n eiddo i'r cyngor wedi'u darparu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sy'n cynnwys ystod eang o fathau o lety gan gynnwys fflatiau un ystafell wely, tai dwy ystafell wely, byngalos dwy ystafell wely, tai tair ystafell wely a thai pedair ystafell wely yn ogystal â llety arbenigol i'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i fyw'n annibynnol.

Mae pob cartref yn cynnwys cegin ac ystafell ymolchi fodern, ynghyd â lefelau uchel o insiwleiddio i leihau'r gwres sy'n cael ei golli, yn ogystal â manteisio i'r eithaf ar dechnoleg ynni adnewyddadwy drwy osod paneli solar a phwyntiau gwefru cerbydau trydan ar bob cartref a fydd yn helpu i leihau biliau ynni.

Mae'r Cyngor wrthi'n gweithio tuag at ei dargedau carbon sero net trwy ei raglen adeiladu tai newydd. Fel rhan o'r gwaith hwn, ni ddefnyddir tanwydd ffosil mwyach mewn datblygiadau tai Cyngor newydd, gan ganolbwyntio ar lefelau uchel o insiwleiddio a darparu cynhesrwydd fforddiadwy trwy systemau gwresogi trydan gyda thechnolegau adnewyddadwy i ddarparu cynhesrwydd fforddiadwy i denantiaid trwy'r flwyddyn.

Yn ogystal â'r rhaglen adeiladu tai newydd, mae 324 o eiddo wedi'u hychwanegu at stoc dai'r Cyngor drwy brynu tai o'r farchnad agored.

Mae 162 o eiddo ar gyfer perchentyaeth cost isel hefyd wedi'u datblygu drwy ddarpariaethau adran 106 y system gynllunio sy'n helpu pobl leol i brynu eu cartrefi eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi:

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gynyddu'r ddarpariaeth o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy ledled y sir. Rydym yn gwneud cynnydd da o ran ein hymrwymiad i gefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2000 o dai fforddiadwy ledled y sir erbyn 2027, gan ganolbwyntio ar ddarparu tai i deuluoedd bach a mawr, pobl hŷn, pobl sengl, cyplau ac aelwydydd ag anghenion arbenigol.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel ac mae hefyd yn gweithio gyda chymdeithasau tai sy'n bartneriaid i ddarparu mwy o dai newydd ledled y sir. Rydym hefyd yn prynu tai sy'n cyd-fynd ag anghenion ein preswylwyr, yn gweithio gyda datblygwyr i sicrhau bod ystod o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu fel rhan o ddatblygiadau preifat ac yn gwneud gwaith i sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Mae'r datblygiadau hyn yn cyfrannu tuag at ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi'r gwaith o ddarparu 2000 o dai newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae hyn hefyd yn cyfrannu at agenda ynni gwyrdd y Cyngor.