Cyngor Sir Caerfyrddin yn anrhydeddu seren rygbi Cymru Phil Bennett OBE gyda Phlac Newydd yn Llanelli

80 diwrnod yn ôl

Pat Bennett a'i meibion, Steven a James, gydag arweinwydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price ac Aelod Cabinet, Edward Thomas yn coffáu Phil Bennett a'r hyn mae wedi'i roi i ni, wrth ddadorchuddio ei blac yn Llanelli.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o goffáu'r diweddar Phil Bennett, un o gewri byd rygbi Cymru, drwy ddadorchuddio plac newydd er cof amdano, a hynny ar y bont i gerddwyr a beicwyr yn Llanelli. Mae'r plac hwn yn anrhydeddu cyflawniadau chwaraeon arbennig Bennett yn ogystal â chydnabod ei gyfraniadau sylweddol i'r gymuned a oedd yn gartref iddo.

Roedd Phil Bennett, brodor o Felin-foel, wedi gadael ôl anferth ar y cae rygbi, gan swyno cynulleidfaoedd gyda'i sgil a'i angerdd dros y gêm. Yn ogystal â'i ddoniau chwaraeon, roedd Bennett yn ffigwr annwyl yn y gymuned, yn enwog am ei haelioni a'i ymrwymiad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau eraill.

Mae'r bont hon, sydd wedi'i ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Trafnidiaeth Cymru, yn fwy na llwybr cyfleus yn unig - mae'n gam ymlaen i greu rhwydwaith ehangach o lwybrau sy'n cysylltu cymunedau ac yn gwella hygyrchedd. Drwy gynnig mynediad uniongyrchol i'r ganolfan fanwerthu ym Mharc Trostre, mae'r bont yn cyfoethogi cysylltedd a chyfleustra'r ardal ymhellach, gan fod o fudd i drigolion ac ymwelwyr.

Mae dadorchuddio Carreg Goffa Phil Bennett ar y bont hon yn nodi'r drydedd gofeb wedi'i gysegru iddo yn Llanelli, gan danlinellu effaith barhaol ei ddylanwad ym maes chwaraeon a'i gyfraniadau sylweddol i'r gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn hynod falch o anrhydeddu Phil Bennett, un o gewri byd rygbi Cymru, drwy ddadorchuddio'r plac newydd hwn er cof amdano.
Wrth goffáu Phil Bennett a'r hyn mae wedi'i roi i ni, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i feithrin cymuned sy'n gwerthfawrogi ac yn dathlu ei harwyr chwaraeon."