Cymorthfeydd Caffael a Busnes Sir Gaerfyrddin 2024

78 diwrnod yn ôl

Mae busnesau sy'n dymuno cyflenwi eu nwyddau, eu gwaith a'u gwasanaethau i Gyngor Sir Caerfyrddin yn cael eu hannog i fynd i Gymorthfeydd Caffael a Busnes yr haf hwn. Bydd y digwyddiadau, sy'n cael eu cynnal gan yr Awdurdod Lleol, yn darparu cyngor caffael, arweiniad a gwybodaeth am gyllid i gyflenwyr. 

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal cyfres o Gymorthfeydd Caffael a Busnes ledled y sir yr haf hwn er mwyn ymgysylltu â Busnesau Bach a Chanolig lleol (BBaCh), Sefydliadau'r Trydydd Sector a Grwpiau Lleiafrifol.

Nod y Cymorthfeydd yw rhoi cyfle i fusnesau hyrwyddo eu hunain i'r Awdurdod Lleol. Bydd Swyddogion Caffael a Swyddogion Datblygu Economaidd hefyd wrth law i roi gwybodaeth a chymorth ynghylch cyfleoedd masnachu, cymorth busnes a chyllid grant yn awr ac yn y dyfodol.

Bydd Cymorthfeydd Caffael a Busnes yn cael eu cynnal yn y mannau canlynol:

  • Canolfan Fusnes Parc y Bocs, Cydweli – 21 Mai
  • Y Plough, Llandeilo – 4 Mehefin
  • Neuadd Cawdor, Castellnewydd Emlyn – 18 Mehefin
  • Y Gât, Sanclêr – 2 Gorffennaf
  • Clwb Rygbi Llanymddyfri, Llanymddyfri – 16 Gorffennaf
  • Canolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn ar Daf – 30 Gorffennaf

I drefnu apwyntiad 30 munud, cysylltwch â Kim Baker, Uwch-swyddog Caffael y Cyngor Sir.

Rhif ffôn: 01267 246241

Cyfeiriad e-bost: kbaker@sirgar.gov.uk

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun Lenny:

Gan ddeall pwysigrwydd busnesau bach a chanolig i'n heconomi leol, mae'r Cyngor Sir yn annog busnesau lleol i wneud cais am y cyfle i gyflenwi nwyddau, gwaith a gwasanaethau i ni. 
Bydd gwybodaeth a chyngor ynghylch sut i dendro am gyfleoedd gyda'r Cyngor ar gael yn hwylus yn ein Cymorthfeydd Caffael a Busnes, felly rwy'n annog pob Busnes Bach a Chanolig, Sefydliad y Trydydd Sector a Grŵp Lleiafrifol i fanteisio ar y cyfle gwych hwn.”