Cabinet yn cymeradwyo cyllid sylweddol i Gastellnewydd Emlyn

63 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cyfle cyllido sylweddol i Gastellnewydd Emlyn drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn yn derbyn cymorth ariannol o £14,800 i ariannu digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn y dref. Ceisiwyd cyllid i gefnogi Pencampwriaethau Prawf Amser a Rasio Ffordd Iau Cenedlaethol Beicio Prydain sy'n cael eu cynnal yng Nghastellnewydd Emlyn ym mis Mehefin 2024. Daw hyn ar ôl i'r dref gynnal digwyddiadau llwyddiannus tebyg yn 2022 a 2023. Mae'r cyhoeddiad gan Feicio Prydain i gynnal y digwyddiadau yng Nghastellnewydd Emlyn yn gyfle pwysig i godi proffil y dref, a'i hyrwyddo fel lle i aros ac i ymweld ag ef.

Fel rhan o uchelgeisiau Castellnewydd Emlyn i gynyddu nifer y digwyddiadau yn y dref, bydd yr arian grant yn cael ei ddefnyddio i brynu gazebos wedi'u brandio a system sain i'w defnyddio gan drefnwyr digwyddiadau lleol, gan leihau costau sy'n codi dro ar ôl tro.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:


Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi rhoi pwyslais ar gymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin drwy nodi argymhellion clir i sicrhau ailddatblygiad. Bydd cymeradwyo cyllid i Gastellnewydd Emlyn yn annog twristiaeth ac yn cyfrannu at waddol parhaol tref lewyrchus am flynyddoedd i ddod.


Mae cymeradwyo'r cyllid yn unol â nod y prosiect Deg Tref i gefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig Sir Gaerfyrddin. Mae hefyd yn cyd-fynd â thrydydd amcan llesiant y Cyngor - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus).

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Deg Tref, ewch i'r wefan