Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – Ysgol Dyffryn Aman – Dydd Iau, 25 Ebrill

11 diwrnod yn ôl

Yn dilyn y digwyddiad ddoe yn Ysgol Dyffryn Aman, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gefnogi'r ysgol a chynorthwyo Heddlu Dyfed-Powys gyda'u hymchwiliad.

Tra bod yr ysgol ar gau heddiw (dydd Iau, 25 Ebrill) mae tîm uwch-arweinwyr yr ysgol yn blaenoriaethu'r gwaith o gysylltu â'r holl ddisgyblion a staff i holi ynghylch eu lles.

Mae gwersi ar-lein yn cael eu darparu i ddisgyblion sy'n dymuno dilyn eu hamserlen ddysgu arferol ac mae'r ysgol eisoes wedi cyfathrebu â'r byrddau arholi i drafod unrhyw drefniadau amgen angenrheidiol ar gyfer dysgwyr sy'n sefyll arholiadau.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud eu bod yn debygol o ddod â'u hymchwiliad i ben yn yr ysgol erbyn diwedd y dydd heddiw (dydd Iau).

Gan gydnabod yr amser sydd ei angen i baratoi'r adeilad i'r disgyblion ddychwelyd, mae'r ysgol, gyda chefnogaeth y Cyngor Sir, wedi penderfynu cau'r ysgol i ddisgyblion yfory (dydd Gwener 26 Ebrill). Bydd gwersi ar gael ar-lein.

Bydd athrawon a staff yn dychwelyd yfory i baratoi'r adeilad, gyda'r bwriad i bob disgybl ddychwelyd yn ddiogel ddydd Llun. Bydd rhagor o ohebiaeth yn dilyn i gadarnhau trefniadau'r ysgol ar gyfer dydd Llun, 29 Ebrill.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price:

Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, hoffwn ddweud mor falch ydym bod y tri unigolyn a anafwyd wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty ac rydym yn dymuno gwellhad buan iddynt. 
Roedd y digwyddiad ddoe yn sioc fawr i bawb a hoffwn gydnabod ymateb rhagorol y staff a disgyblion yr ysgol, staff y Cyngor a’r holl wasanaethau brys a oedd ynghlwm gyda’r digwyddiad.  
Mae cryfder a phenderfyniad pawb dan sylw i sicrhau bod ein plant yn dychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny wedi cael effaith fawr arnaf.”