Y Cyngor yn mynd i'r afael â throseddau amgylcheddol

17 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol, gan gynnwys tipio anghyfreithlon, sbwriel a baw ci ledled y sir, gan gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig gwerth cyfanswm o £2,975 ym mis Mawrth.

Cyhoeddwyd saith Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 am droseddau'n ymwneud â sbwriel:

  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd o Sanclêr am adael bocs cardbord ar y llawr yng nghyfleuster ailgylchu Sanclêr.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd ym Mhen-bre am adael bag sbwriel du o wastraff yng nghyfleuster ailgylchu Porth Tywyn.
  • Rhoddwyd dau Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylwyr o Sir Gaerfyrddin am adael bocs cardbord ar y llawr yng nghyfleuster ailgylchu Morrisons, Caerfyrddin.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd o Landrindod am adael bonyn sigarét ar y llawr ym Mharc Adwerthu Pen-sarn, Caerfyrddin.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd o Gorseinon am daflu papur lapio baryn o siocled allan o ffenestr ei gerbyd ym Maes Parcio Uwchfarchnad Tesco, Trostre yn Llanelli.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd o Borth Tywyn am adael bag plastig o wastraff yng nghyfleusterau ailgylchu Porth Tywyn.

Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 i breswylydd o Lanelli am dipio sawl bag ailgylchu glas a bag sbwriel du yn anghyfreithlon yn ardal Pwll Twym, Trem y Parc, Llanelli.

Rhoddwyd dau Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 i breswylwyr o Lanelli a Pharc Y Garreg, Mynyddygarreg a fethodd yn eu dyletswydd gofal i gynnal archwiliadau trwydded rhesymol wrth ganiatáu i drydydd parti gael gwared ar eu gwastraff cartref.

Rhoddwyd dau Hysbysiad Cosb Benodedig o £200 hefyd am droseddau'n ymwneud â baw cŵn:

  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd o Fronwydd am beidio â chlirio baw ei chi ar unwaith yn Heol Bronwydd, Caerfyrddin. Roedd y ci yn rhedeg yn rhydd yn yr ardal ar y pryd.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd o Bontyberem am fethu â chodi baw ei gi ym Mharc Dŵr y Sandy, Llanelli.

Gwnaeth methu â chydymffurfio â hysbysiad cynwysyddion gwastraff y cartref, arwain at wyth Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 ym mis Mawrth o dan adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990:

  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd yn Walters Road, Llanelli am roi mwy na'r terfyn o 3 bag du allan i'w casglu.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd o Heol y Wern, Llanelli am roi gwastraff allan i'w gasglu ar y diwrnod anghywir.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd o Stryd Robinson Uchaf, Llanelli am roi gwastraff bwyd mewn bag ailgylchu glas.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd o Stryd Robinson Uchaf, Llanelli am roi tecstilau mewn bag ailgylchu glas.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i un o breswylwyr Stryd Elisabeth, Llanelli am roi gwydr a gwastraff bwyd mewn bag ailgylchu glas.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i un o breswylwyr Bancffosfelen am roi gwastraff bwyd mewn bag ailgylchu glas.
  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i un o breswylwyr Old Lodge, Llanelli am roi eitemau brwnt a thecstilau mewn bagiau ailgylchu glas.

 

  • Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i un o breswylwyr Llanelli am roi gwallt a chewynnau plant mewn bagiau ailgylchu glas.

Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 i fusnes yn Stryd Murray, Llanelli am fethu â chydymffurfio â hysbysiad cynwysyddion gwastraff o dan adran 47 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 oherwydd bod eu biniau gwastraff masnach yn orlawn.

Rhoddwyd 58 o hysbysiadau hefyd i breswylwyr yn y sir am fethu â chydymffurfio â chynllun casglu gwastraff Cyngor Sir Caerfyrddin o dan adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Rhoddwyd dau rybudd i fusnesau yn y sir o dan adran 47 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt roi mesurau ar waith i gludwr gwastraff awdurdodedig gasglu a gwaredu eu gwastraff.

Dywedodd Ainsley Williams, Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith:

Mae nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd yn ystod mis Mawrth yn dangos ymrwymiad parhaus Tîm Gorfodi Materion Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen defnyddio gwasanaeth casglu gwastraff i wirio'r rhestr o gludwyr gwastraff cofrestredig ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.”

I roi gwybod am faterion yn ymwneud â sbwriel, tipio anghyfreithlon neu faw cŵn, ewch i wefan y Cyngor.