Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin – ymgynghoriad nawr ar agor
207 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awyddus i gael barn trigolion a rhanddeiliaid allweddol ar ei swyddogaeth trwyddedu bridio cŵn.
Mae Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd y Cyngor wedi llunio Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu swyddogaeth trwyddedu bridio cŵn tîm Iechyd Anifeiliaid y Gwasanaeth Materion Defnyddwyr a Busnes.
Nod yr adolygiad yw asesu a yw'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau yn ddigon cadarn a chyson, yn gydlynol, yn darparu canlyniadau mesuradwy, yn rhoi gwerth am arian, ac archwilio cyfleoedd i wella.
Mae'r Ymgynghoriad ar agor tan ddydd Mawrth, 15 Mai 2024, a bydd sylwadau trigolion a rhanddeiliaid Sir Gaerfyrddin yn cael eu bwydo'n ôl i Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu i'w hystyried ac i lunio rhan o'r adolygiad.
Ar ôl cwblhau'r adolygiad, bydd adroddiad terfynol, a fydd yn cynnwys argymhellion i'r Cabinet, yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yn ddiweddarach eleni.