Myfyriwr lleol yn ennill 2 fedal yn y Gemau Olympaidd Arbennig

204 diwrnod yn ôl

Cystadlodd Joshua Davies, 16 oed, yn y gystadleuaeth Sgïo i Lawr Rhiw ac enillodd fedal Efydd ac Aur yn y Gemau Olympaidd Arbennig a gynhaliwyd yn Flogaria, Gogledd yr Eidal yn gynharach eleni.

Bu Josh, myfyriwr yn Ysgol Heol Goffa, yn cystadlu fel rhan o Dîm Sgïo SOGB Gorllewin Cymru, ochr yn ochr â 5 arall. Y Gemau Olympaidd Arbennig yw'r sefydliad chwaraeon mwyaf yn y byd ar gyfer pobl ag anableddau deallusol ac mae'n ceisio creu byd gwell trwy dderbyn a chynnwys pawb.

Ers i Josh ddychwelyd i Sir Gaerfyrddin, mae wedi ymddangos ar S4C, y BBC ac ITV!

Pan ofynnwyd iddo sut roedd cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd Arbennig wedi gwneud iddo deimlo, dywedodd Josh:

Gwnaeth i mi deimlo fy mod yn gallu credu ynof fy hun.

Dywedodd Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin:

Llongyfarchiadau mawr i Josh ar ei lwyddiant. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth mae Josh yn ei wneud nesaf.

Mae Josh wedi cynnig ei enw ar gyfer Gemau Olympaidd Arbennig y Gaeaf, lle mae'n gobeithio ennill mwy o fedalau yn ei gamp.

Llongyfarchiadau Josh, a phob lwc i'r dyfodol.