Gill Adams, Prif Reolwr Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ennill yn Seremoni Wobrwyo Flynyddol y Butler Trust

46 diwrnod yn ôl

Llongyfarchiadau i Gill Adams gan bawb yng Nghyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi derbyn Gwobr y Butler Trust gan Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol (Y Dywysoges Anne) mewn seremoni yn Llundain.

Wrth dderbyn Gwobr y Butler Trust 2023/24, ar ddydd Mawrth, 19 Mawrth 2024, mae Gill wedi cael ei chydnabod am ei hymroddiad diflino i gyfiawnder ieuenctid ers blynyddoedd lawer a'i rôl ehangach fel Prif Reolwr Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin.

Gwobrau'r Butler Trust yw'r unig wobrau ledled y DU yn benodol ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau carcharu a chyfiawnder cymunedol ac fe'u disgrifir yn aml fel yr Oscars ar gyfer y sector.

Yn ystod ei chyfnod yn Sir Gaerfyrddin, mae Gill wedi goruchwylio'r gwaith o drawsnewid canlyniadau i bobl ifanc, gan leihau'r amser a dreulir mewn dalfa a lefelau cyhuddiadau ar gyfer yr holl droseddau. Wrth wneud hynny, mae'r gwasanaeth wedi gallu canolbwyntio ar atal a lleihau niwed gyda llwyddiant wrth leihau niwed yn y rhai sydd mewn perygl o orddos cyffuriau.

Mae Gill, a enwebwyd gan ei chydweithwyr, yn cael ei chydnabod fel arweinydd gwirioneddol ysbrydoledig sy'n dosturiol ac yn angerddol am yr hyn y mae'n ei wneud i gyfoethogi bywydau pobl ifanc a'u galluogi i gyflawni eu gwir botensial. Mae ganddi broffil cenedlaethol fel un o reolwyr y Tîm Troseddu Ieuenctid (YOT) sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y DU a bu'n gadeirydd grŵp rheolwyr YOT Cymru am flynyddoedd lawer ac ar Fwrdd Panel Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, Bwrdd Cenedlaethol Hwb Doeth a Grŵp Defnyddwyr Llysoedd Cenedlaethol a Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid.

O fewn ei rôl fel Prif Reolwr Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid y Cyngor Sir, sy'n cynnwys darpariaeth Cyfiawnder Ieuenctid, mae Gill wedi arwain y gwasanaeth i fod yn wasanaeth hunanwerthuso a dysgu sydd wedi ennill Gwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid a'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ar Lefel Aur, ar ôl symud ymlaen yn systematig trwy Efydd ac Arian.

Ar ben hynny, ystyrir bod Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn arwain y sector a chafwyd cadarnhad gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ei fod yn rhagorol o ran yr holl ddangosyddion hunanasesu. Mae Gill wedi sicrhau bod amrywiaeth ac anghymesuredd hefyd wrth wraidd ymarfer cyfiawnder ieuenctid. Mae hi'n poeni'n fawr am les staff a defnyddwyr gwasanaethau, er mwyn hyrwyddo amgylchedd a diwylliant gwaith gofalgar a thosturiol o fewn y sefydliad.

 

Dywedodd Jake Morgan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae yna bobl ifanc di-ri y mae eu bywydau wedi'u trawsnewid oherwydd ymroddiad ac ymrwymiad Gill i'r rôl. 
Mae Gill yn dod â chyfoeth o brofiad i'r rôl, gan ddangos arweinyddiaeth gadarn, arloesedd ac empathi bob amser. Mae hi'n fentor effeithiol ac wedi datblygu a chefnogi staff sydd wedi symud i swyddi arwain o fewn y gwasanaeth ac mewn awdurdodau lleol eraill. Mae hi'n eiriolwr angerddol dros degwch i unigolion, boed yn staff, plant, teuluoedd a dioddefwyr, ac yn hynod falch o gyflawniadau'r gwasanaeth, e.e. cyflwyno ar Lefel y DU ar y Dull Rheoli Achosion Uwch, peilot llwyddiannus yn Sir Gaerfyrddin. 
Mae Gill yn aelod gwerthfawr o'r Tîm Rheoli Addysg a Gwasanaethau Plant. Mae hi'n swyddog proffesiynol, dibynadwy a phrofiadol iawn sy'n arwain ac yn cyfrannu at waith Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid y Cyngor Sir yn effeithiol. Mae hi'n frwd dros sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn llwyddo ac yn cael y cyfleoedd gorau i oresgyn eu heriau a'u problemau. 
Mae hi'n enillydd teilwng o Wobr y Butler Trust, llongyfarchiadau Gill.” 

I gael rhagor o wybodaeth am Wobr y Butler Trust, ewch i wefan Gwobr y Butler Trust.