Diweddariad Ar Ysgol Dyffryn Aman

12 diwrnod yn ôl

Mae'r hyn sydd wedi digwydd heddiw wedi bod yn sioc enfawr i gymuned Ysgol Dyffryn Aman a Chyngor Sir Caerfyrddin. Rydym yn meddwl am y tri unigolyn sydd wedi'u hanafu a'u teuluoedd, ac yn gweddïo drostynt.

 

Rydym yn helpu Heddlu Dyfed-Powys gyda'u hymchwiliad, ac felly gallwn gadarnhau y bydd Ysgol Dyffryn Aman ar gau yfory, dydd Iau 25 Ebrill, i'r holl ddisgyblion a staff er mwyn i Heddlu Dyfed-Powys gynnal eu hymchwiliad.

 

Tra bydd yr ysgol ar gau yfory, bydd gwersi ar-lein ar gael i ddisgyblion a bydd cymorth llesiant ar gael i'r holl ddisgyblion a staff y mae digwyddiadau heddiw wedi effeithio arnynt.

 

Hoffai Cyngor Sir Caerfyrddin achub ar y cyfle hwn i ailadrodd cais Heddlu Dyfed-Powys i ddileu lluniau a fideos yn ymwneud â'r digwyddiad sydd ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn osgoi dirmyg llys a gofid i'r rhai mae hyn wedi effeithio arnynt. Gofynnwn hefyd i bobl beidio â dyfalu wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda'u hymchwiliad i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy eu Porth Cyhoeddus penodedig.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Darren Price:

Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, hoffwn gydymdeimlo o waelod calon â phawb y mae digwyddiad heddiw wedi effeithio arnynt, ac yn enwedig y tri unigolyn a anafwyd.
Mae fy meddyliau gyda nhw a'u teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ganmol yr athrawon, staff a disgyblion yn Ysgol Dyffryn Aman am y ffordd maent wedi ymateb i'r digwyddiad brawychus hwn. Fel Cyngor, ein blaenoriaeth nawr yw gwneud popeth o fewn ein gallu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf i gefnogi'r disgyblion a'r staff yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd.
Mae'r hyn sydd wedi digwydd heddiw wedi bod yn sioc enfawr i gymuned yr ysgol, i Rydaman, i Sir Gaerfyrddin ac yn ehangach.
I gefnogi Heddlu Dyfed-Powys, bydd Ysgol Dyffryn Aman ar gau yfory i'r holl ddisgyblion a staff er mwyn i swyddogion barhau gyda'u hymchwiliadau.
Er bydd yr ysgol ar gau, rwyf am sicrhau disgyblion, rhieni a staff bod cymorth llesiant ar gael i unrhyw un mae hyn wedi effeithio arnynt. Bydd gwersi'r ysgol yn parhau ar-lein.
Hoffwn ailadrodd cais Heddlu Dyfed-Powys i ddileu lluniau a fideos yn ymwneud â'r digwyddiad sydd ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn osgoi dirmyg llys a gofid i'r rhai mae hyn wedi effeithio arnynt. Gofynnwn hefyd i bobl beidio â dyfalu wrth i'r ymchwiliad barhau.”