Cyhoeddi seminarau i hysbysu trigolion a busnesau am newidiadau mewn ardaloedd cadwraeth yn Sir Gaerfyrddin

41 diwrnod yn ôl

Yn ddiweddar, mae Adran Lle a Chynaliadwyedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cwblhau adolygiadau cynhwysfawr o 10 Ardal Gadwraeth ar draws y sir, a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn. Mae'r adolygiadau hyn yn arwydd o ymdrech sylweddol i warchod ein treftadaeth wrth hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Mae'r Tîm Treftadaeth Adeiledig yn falch o gyhoeddi y bydd dwy seminar yn cael eu cynnal sef dydd Iau, 25 Ebrill, a dydd Llun, 29 Ebrill, 2024. Mae'r seminarau hyn yn rhad ac am ddim a byddant yn cael eu cynnal ar-lein trwy Zoom, gan sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb sy'n cymryd rhan.

Bydd y seminar ddydd Iau 25 Ebrill, 2024 o dan y teitl "Perchnogion Tai: Newidiadau mewn Ardaloedd Cadwraeth" yn cael ei gynnal ar-lein o  6:30 PM - 8:00 PM. Mae'r sesiwn hon wedi'i theilwra ar gyfer perchnogion tai sydd â diddordeb mewn deall y newidiadau y gellir eu gwneud i anheddau domestig mewn Ardaloedd Cadwraeth.

Bydd y seminar ddydd Llun, 29 Ebrill 2024, o dan y teitl "Perchnogion Busnes: Eiddo Masnachol" hefyd yn cael ei chynnal ar-lein rhwng 6:30 PM - 8:00 PM. Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer perchnogion busnes sy'n gweithredu o eiddo mewn Ardaloedd Cadwraeth.

Bydd y ddwy sesiwn yn ymdrin â phynciau megis pam mae Ardaloedd Cadwraeth yn arbennig, pryd y mae angen Caniatâd Cynllunio ar gyfer newidiadau, canllawiau ynghylch mesurau effeithlonrwydd ynni ac addasiadau pensaernïol, a ble i ddod o hyd i adnoddau pellach.

Nod y seminarau hyn yw rhoi gwybod i drigolion a pherchnogion busnesau am newidiadau mewn Ardaloedd Cadwraeth ledled y sir, gan roi grym i'r gymuned i gymryd rhan i warchod ein treftadaeth gyffredin.

Mae deall goblygiadau cynllunio o ran newidiadau i Ardaloedd Cadwraeth yn hanfodol i berchnogion tai a busnesau. Bydd y seminarau'n rhoi eglurder ar effeithiau posibl, gan sicrhau y gall rhanddeiliaid lywio prosesau cynllunio yn hyderus ac yn gyfrifol. Bydd mynychwyr yn cael eu cyfeirio at ffynonellau dibynadwy i gael rhagor o wybodaeth a chymorth, gan hwyluso'r broses o wneud penderfyniadau gwybodus a lliniaru’r achosion posibl o dorri rheoliadau cynllunio.

Mae'r seminarau hyn yn rhan ganolog o'r strategaeth hirdymor i wella Gwasanaethau Adeiladau Hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin. Drwy ymgysylltu â'r gymuned a meithrin cydweithrediad, y nod yw diogelu ein hetifeddiaeth ddiwylliannol am genedlaethau i ddod.

Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, ewch i Seminarau Ardaloedd Cadwraeth | Canolfan Tywi.