Chwaraeon a Hamdden Actif yn cefnogi athletwyr o Gymru

17 diwrnod yn ôl

Mae gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gefnogi ei athletwyr amatur lleol sy'n cynrychioli Cymru, drwy ei Gynllun Cerdyn Aur.

Mae'r Cynllun Cerdyn Aur yn caniatáu i drigolion Sir Gaerfyrddin sy'n cynrychioli ein gwlad, fel athletwyr sydd heb fod yn cael tâl yn eu camp ddewisol, gael mynediad i gyfleusterau yng Nghanolfannau Hamdden Actif, yn rhad ac am ddim, i ategu eu rhaglen hyfforddi bresennol.

Un clwb chwaraeon y mae Actif yn ei gefnogi, drwy ei Gynllun Cerdyn Aur, yw Clwb Athletau Llanelli sy'n cynnwys cyfanswm o 5 athletwr rhyngwladol Cymru.

Mae Harrison Wheeler wedi cynrychioli Cymru yn y ras 400m a'r ras gyfnewid 100m; mae Jonathan Williams wedi rhedeg y 400m a'r ras gyfnewid dros Gymru fel Meistr yn y categori oedran 35-40 ac mae Lisa Franklin yn athletwr rhyngwladol dros Gymru ac wedi cystadlu fel Meistr yn y categori oedran 55-60 yn y gamp Gwaywffon a'r ras gyfnewid 4 x 100m. Mae Mari Wilson wedi cynrychioli ei gwlad yn y Pentathlon ac mae Darcy Coslett wedi cystadlu yn y ras 300m dros Gymru.

Dan hyfforddiant Chris Franklin, mae'r athletwyr hyn yn defnyddio eu Haelodaeth Cerdyn Aur i hyfforddi ar Drac Athletau Rhydaman. Mae'r Clwb hefyd yn defnyddio pwll nofio Canolfan Hamdden Llanelli ar gyfer diwrnodau adfer a thraws-ymarfer, ynghyd â'r gampfa fel lleoliad hyfforddi allweddol.

Dywedodd Lisa Franklin athletwr rhyngwladol dros Gymru o Glwb Athletau Llanelli:

Mae pob un o'n hathletwyr sy'n cynrychioli Cymru yn defnyddio eu Haelodaeth Cerdyn Aur. Mae gallu cael mynediad i gyfleuster trac arall, sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos, yn helpu gyda sesiynau hyfforddi ychwanegol ac mae'n fudd mawr i ni, yn enwedig wrth geisio ymarfer rhwng cystadlaethau amrywiol.
Mae ein hathletwyr mor ddiolchgar i Chwaraeon a Hamdden Actif am y gefnogaeth. Mae'r Cerdyn Aur yn ased gwerthfawr iawn, nid yn unig o ran darparu cyfleusterau hyfforddi ychwanegol ond hefyd fel cymorth ariannol a chymhelliant i barhau i hyfforddi'n galed a chystadlu ar lefel uchel.”

Mae darparu'r Cynllun Cerdyn Aur i unigolion o Sir Gaerfyrddin sy'n cynrychioli Cymru mewn camp yn rhan o drydydd amcan llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin, sef galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn llewyrchus.

Dywedodd Ian Jones, Pennaeth Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin:

Rydym yn falch iawn o'n hathletwyr lleol sy'n cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod yr oriau ar ôl oriau o ymrwymiad, ymroddiad a hyfforddiant y mae'r athletwyr amatur hyn yn eu rhoi i'w camp, heb unrhyw fudd ariannol, ac mae'n dda gweld bod ein hathletwyr rhyngwladol yn manteisio ar gefnogaeth y Cynllun Cerdyn Aur."

 

Ewch i wefan Chwaraeon a Hamdden Actif i gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cerdyn Aur.

 

Llun, o'r chwith i'r dde:

Harrison Wheeler - Wedi cynrychioli Cymru yn y ras 400m a'r ras gyfnewid 4x100m.

Jonathan Williams - Wedi cynrychioli Cymru fel Meistr yn y categori oedran 35-40 oed yn y ras 400 a'r ras gyfnewid.

Lisa Franklin - Wedi cynrychioli Cymru fel Meistr yn y categori oedran 55-60 oed yn y gamp Gwaywffon a'r ras gyfnewid 4x100m.

Mari Wilson, wedi cynrychioli Cymru yn y Pentathlon.

Darcy Coslett , wedi cynrychioli Cymru yn y ras 300m.

Wedi'u hyfforddi gan Chris Franklin .