Canlyniad yr Ymgynghoriad ynghylch y Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed Ysgolion Cynradd 2025/26

13 diwrnod yn ôl

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a phenderfyniad gan y Cabinet, mae trefniadau derbyn ysgolion ar gyfer plant pedair oed yn newid yn Sir Gaerfyrddin. O fis Medi 2025 bydd plant yn dechrau addysg llawn-amser y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed yn hytrach na'r tymor pan fyddant yn troi'n bedair oed. 

Mae hyn yn golygu y bydd plant sy'n mynychu ysgolion 3-11 oed ac sy'n derbyn addysg ran-amser yn aros mewn addysg ran-amser am gyfnod hirach nag y maent o dan y polisi presennol.

Bydd y newid hwn ond yn effeithio ar blant a gafodd eu geni ar neu ar ôl 1 Medi 2021. Ni fydd unrhyw newid i blant sy'n dechrau addysg ran-amser neu lawn-amser cyn 1 Medi 2025.

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r dyddiadau cychwyn ar gyfer disgyblion yn seiliedig ar eu dyddiad geni, ynghyd â'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau derbyn a'r dyddiad hysbysiad o benderfyniad.

 

Dyddiad Geni'r Plentyn 

Y Tymor Derbyn 

Dyddiad dechrau derbyn disgwyliedig 

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais 

Dyddiad hysbysiad o benderfyniad 

1 Medi 2021 i 

31 Rhagfyr 2021 

Tymor y Gwanwyn 2026 

Ionawr 2026 

 

31 Ionawr 2025.   

 

16 Ebrill 2025

neu'r diwrnod gwaith nesaf 

1 Ionawr 2022 i 

31 Mawrth 2022 

Tymor yr Haf 2026 

Ebrill 2026 

1 Ebrill 2022 i 

31 Awst 2022 

Tymor yr Hydref 2026 

Medi 2026 

 

Rhaid i bob rhiant gyflwyno cais ar wahân ar gyfer y lle llawn-amser 4 oed mewn ysgol erbyn 31 Ionawr 2025 waeth beth yw'r tymor pan fyddant yn dod yn llawn-amser. Mae angen cais ar wahân ar gyfer lle ysgol rhan-amser a llawn-amser.  

Ar gyfer rhieni sydd eisoes wedi gwneud cais am le llawn amser mewn ysgol o 1 Medi 2025, bydd y Tîm Derbyn i Ysgolion yn cysylltu â chi os yw'r newid yn effeithio arnoch.  Nid oes angen gwneud cais eto os ydych eisoes wedi gwneud cais am le llawn amser mewn ysgol, bydd y Tîm Derbyn yn diweddaru'r dyddiad cychwyn yn awtomatig i'ch plentyn er mwyn adlewyrchu'r polisi newydd.   

Mae'n bosibl y bydd rhieni sy'n gweithio yn gallu cael mynediad at hyd at 30 awr o Addysg a Gofal Plant wedi'i ariannu drwy gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru ar gyfer plant cymwys 3 i 4 oed.  Dilynwch y ddolen hon Gofal Plant - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin (llyw.cymru) i gael rhagor o wybodaeth.