Bydd Ysgol Dyffryn Aman yn ailagor ddydd Llun, 29 Ebrill

11 diwrnod yn ôl

Mae Ysgol Dyffryn Aman wedi cadarnhau y bydd yn ailagor i ddisgyblion ddydd Llun, 29 Ebrill. Hoffai Cyngor Sir Caerfyrddin ac Ysgol Dyffryn Aman roi sicrwydd i'r gymuned ysgol, cyn i'r ysgol ailagor, y bydd amrywiaeth eang o gymorth llesiant yn parhau i gael ei gynnig i ddisgyblion, athrawon a staff yr ysgol.

O ddydd Llun, 29 Ebrill, bydd Tîm Addysg a Seicoleg Plant penodedig o'r Cyngor ar gael i ddisgyblion a staff a byddant yn bresennol yn yr ysgol am y pythefnos nesaf i ddarparu cefnogaeth a chymorth parhaus yn ôl yr angen.

Ar ôl i'r ysgol ailagor, bydd cwnsela i ddisgyblion hefyd ar gael yn Ysgol Dyffryn Aman i gynnig cymorth ac arweiniad i ddisgyblion sy'n wynebu anawsterau.

Mae Tîm Iechyd Galwedigaethol mewnol y Cyngor, ar y cyd â'r Adran Addysg, yn gweithio i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i aelodau staff yr effeithir arnynt. Bydd hyn yn golygu cynnig sesiynau cymorth llesiant, sesiynau galw heibio, sesiynau grŵp, ac atgyfeiriadau ar gyfer cymorth therapiwtig 1:1 yn ôl yr angen.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ddiolchgar am y nifer o gynigion o gymorth gan asiantaethau allanol i ddarparu cymorth ychwanegol i'n disgyblion yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn ystyried yn ofalus sut a phryd i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price:

Fel Cyngor Sir, rydym yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi cymuned Ysgol Dyffryn Aman ac rydym wedi llunio cynllun cymorth llesiant i helpu'r disgyblion a'r staff.
Dull cymorth ar y cyd fydd hwn, gan ein bod yn mabwysiadu dull cydweithredol i sicrhau bod yr holl unigolion yr effeithir arnynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae hyn yn cynnwys cydlynu adnoddau mewnol ac allanol i ddarparu cymorth cyfannol.”