Cyngor yn hyrwyddo Diwrnod Hylendid Dwylo Sefydliad Iechyd y Byd.

185 diwrnod yn ôl

Bob blwyddyn, nod yr ymgyrch Save Lives: Clean Your Hands yw cynnal a hyrwyddo pwysigrwydd hylendid dwylo da. Mae'r Tîm Gofal Cymdeithasol a Diogelu Iechyd mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn codi ymwybyddiaeth ac yn hyrwyddo Diwrnod Hylendid Dwylo Sefydliad Iechyd y Byd.

 

Mae'r Tîm wedi ymweld â phob un o Gartrefi Gofal yr Awdurdod Lleol ac wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gyda'r staff a'r preswylwyr yn ystod yr wythnos yn arwain at 5 Mai 2024.

 

Mae'r gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos yn ategu rhaglen addysg a hyfforddiant parhaus y Tîm Gofal Cymdeithasol a Diogelu Iechyd sy'n cyfrannu at ymrwymiad y Cyngor i gynnal amgylchedd diogel ac iach.

 

Mae swyddogion o'r Tîm Gofal Cymdeithasol a Diogelu Iechyd hefyd wedi bod ym mhob un o'r Canolfannau HWB yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman gydag arddangosfeydd addysgiadol ac wedi ymgysylltu â'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned o bwysigrwydd hylendid dwylo da i atal y risg o haint.

 

Mae pob un o gartrefi'r Awdurdod Lleol wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth bwrdd arddangos yn ystod yr wythnos i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r fenter hon ymhlith preswylwyr, staff gofal ac ymwelwyr. Mae Chris Thomas & Son Fruit & Vegetables Wholesalers Abergwili, Caerfyrddin a Lyreco yn garedig iawn wedi rhoi hamper yr un fel gwobr i'r enillydd am ei gyfraniad i Ddiwrnod Hylendid Dwylo Sefydliad Iechyd y Byd.

 

Yn unol â'r thema eleni, sef "Hyrwyddo gwybodaeth a meithrin gallu gweithwyr iechyd a gofal drwy hyfforddiant ac addysg arloesol ac effeithiol ynghylch atal a rheoli heintiau, gan gynnwys hylendid dwylo," mae ein hymdrechion yn canolbwyntio ar rymuso gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd gyda'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen i leihau lledaeniad heintiau.

 

Hylendid dwylo yw'r dull mwyaf effeithiol o hyd o ran atal trosglwyddo heintiau.

 

Pedwar awgrym i'ch helpu i olchi eich dwylo'n gywir:

 

  • Defnyddiwch sebon i olchi eich dwylo ond os nad oes sebon a dŵr ar gael defnyddiwch yr hylif diheintio dwylo.
  • Golchwch eich dwylo am y 20-30 eiliad llawn gan gofio glanhau pob rhan o'ch dwylo.
  • Sychwch eich dwylo'n drylwyr gan fod dwylo sych yn lledaenu llawer llai o ficro-organebau na rhai gwlyb.
  • Ceisiwch beidio â chyffwrdd eich wyneb - mae'n llawer anoddach nag y mae'n swnio - os nad ydych yn cyffwrdd eich llygaid, eich trwyn na'ch ceg, rydych yn llawer llai tebygol o gael haint.