Prosiect Pentre Awel yn nodi blwyddyn o adeiladu gan osod y strwythur dur olaf
253 diwrnod yn ôl
Mae Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr wedi nodi 12 mis o adeiladu prosiect nodedig Pentre Awel trwy gwblhau strwythur dur Parth cyntaf y datblygiad.
Daw’r garreg filltir arwyddocaol yn y prosiect flwyddyn yn unig ar ôl i’r gwaith adeiladu ddechrau, ac mae’n nodi cam allweddol yn y gwaith adeiladu. Mae'r datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd yn cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Gâr. Bydd yn dod ag arloesi ym maes gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli. Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn) ac ef yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru.
Ac yntau’n brif gontractwr Parth 1, mae Bouygues UK yn ymroddedig i ddefnyddio isgontractwyr lleol fel rhan o'i ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau i bobl leol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Darparodd Dyfed Steels y bar atgyfnerthu ar gyfer sylfeini’r prosiect, sy’n cynnwys 98% o ddeunydd wedi’i ailgylchu, a chyflenwyd y dur strwythurol ar gyfer yr adeiladau, sy’n cynnwys 80% o ddeunydd wedi’i ailgylchu, gan Shufflebottom. Gydag ymrwymiad i dreftadaeth yr ardal, mae’r ffrâm ddur hefyd yn darparu cyswllt hanesyddol i’r adeiladau diwydiannol blaenorol a leolwyd ar y safle, sef Gweithfeydd Tunplat De Cymru a Melinau (Tunplat) Richard Thomas.
Meddai Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel Bouygues UK, fod cwblhau’r strwythur dur yn garreg filltir arwyddocaol yn y prosiect:
Mewn dim ond 12 mis mae’r safle wedi’i drawsnewid wrth i’r datblygiad fynd rhagddo’n gyflym. Mae cwblhau'r fframiau dur ar gyfer pob adeilad wedi bod yn weithgaredd allweddol yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r pwll hydrotherapi, y pwll dysgu a’r prif bwll wedi’u castio ac wedi cael profion dŵr yn llwyddiannus yn barod ar gyfer y cam nesaf.
Meddai’r Cyngh. Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
Mae’n rhyfeddol pa mor bell y mae adeiladu wedi dod mewn dim ond blwyddyn. Mae Bouygues UK wedi dangos eu hymroddiad i brif gynllun Pentre Awel, nid yn unig drwy eu hymgysylltiad rhagorol ag ysgolion lleol, ond drwy gyflogi busnesau Sir Gaerfyrddin i wneud y gwaith ar y safle. Mae’r gymuned yn wirioneddol wrth galon Pentre Awel, rwy’n llongyfarch pawb a fu’n ymwneud ag adeiladu Parth 1 ac edrychaf ymlaen at ei weld yn agor.
Yn ogystal â Shufflebottom a Dyfed Steels, mae cwmnïau lleol eraill a gontractiwyd i weithio ar Bentre Awel yn cynnwys: Green4Wales, Redsix Partnership, Gavin Griffiths Group, Davies Crane Hire, Dyfed Recycling Services ac Owen Haulage.
Fel rhan o ymrwymiad Bouygues UK i ddarparu gwerth cymdeithasol sylweddol ac ymgysylltiad i ysgolion, colegau a phrifysgolion cyfagos, mae gan Bentre Awel gynllun cenhadon ysgol hefyd, lle mae plant o ysgolion lleol yn ymweld â’r safle i rannu eu syniadau a helpu i lunio’r prosiect. Mae rhaglen ehangach o fuddion cymunedol hefyd yn cael ei darparu yn ystod datblygiad Parth 1 Pentre Awel er mwyn gwireddu buddion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu, ymgysylltu â’r gymuned (fel cenhadon cymunedol), gweithgareddau STEM ac ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi.