Pentywyn a Glanyfferi ymhlith y cymunedau diweddaraf yng Nghymru a fydd yn cael band eang cyflym iawn

80 diwrnod yn ôl

Mae Openreach wedi cyhoeddi'r grŵp diweddaraf o gymunedau gwledig yng Nghymru a allai gael gwell band eang yn fuan gyda chymorth cynllun talebau Gigabit Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae Openreach wedi nodi mai Pentywyn a Glanyfferi yw dau o bentrefi a threfi diweddaraf Cymru a fydd yn cael cyfle i gael band eang ffeibr llawn.  Mae preswylwyr yn y ddwy ardal eisoes yn gallu rhoi talebau Gigabit i ddod â band eang ffeibr llawn i'w cymunedau, ond mae Openreach yn annog mwy o bobl leol i gymryd y cam nesaf drwy wneud cais am dalebau Gigabit y Llywodraeth, sydd am ddim, a'u cyfuno i helpu i ariannu'r gwaith adeiladu. Byddai hyn yn cyfateb i dderbyn talebau gan 190 o gartrefi ym Mhentywyn a 134 o gartrefi yng Nglanyfferi.

Mae'r penderfyniad ynghylch gwaith adeiladu'r seilwaith ffeibr, yr adeiladau a gwmpesir a'r amserlen i gyd yn dibynnu ar yr arolygon technegol sy'n cael eu cynnal, yn ogystal â nifer y talebau a roddir gan y gymuned.  Gall preswylwyr weld a ydynt yn gymwys a rhoi eu taleb ar wefan Connect My Community.

Nid yw talebau wedi'u dilysu yn golygu unrhyw gost i breswylwyr ac, os bydd digon o bobl yn eu derbyn, bydd hyn yn galluogi Openreach i weithio gyda chymuned leol i adeiladu rhwydwaith wedi'i deilwra a ariennir ar y cyd. Gellir cyfuno'r talebau i ymestyn y rhwydwaith hynod gyflym a dibynadwy i adeiladau mewn ardaloedd gwledig anghysbell na fydd buddsoddiad preifat yn eu cynnwys.

 

Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru:

Dyma gyfle cyffrous iawn i bobl yn y lleoliadau hyn ddod â holl fanteision band eang ffeibr llawn cyflym a dibynadwy iawn i'w cymuned.
 Mae ein rhaglen Partneriaeth Gymunedol Ffeibr wedi golygu ein bod wedi gallu cynnwys cannoedd mwy o gymunedau ledled y DU, o bosibl, yn ein cynlluniau adeiladu ffeibr llawn. Ond mae ehangu'r rhwydwaith i'r lleoliadau hyn sy'n anoddach eu cyrraedd yn dal i fod yn heriol - a dyna pam mae hyn ond yn bosibl os yw pawb yn cydweithio - chi, eich cymdogion ac Openreach. 
Bydd pawb sy'n rhoi taleb yn gwneud eu rhan i helpu i wneud eu cymuned yn un o'r lleoedd a'r cysylltiad gorau yn y DU. 
Rydyn ni'n buddsoddi £15 biliwn i ehangu band eang ffeibr llawn i 25 miliwn o gartrefi - a bydd mwy na chwe miliwn o'r rheiny yn nhraean anoddaf y DU - ond allwn ni ddim uwchraddio'r wlad gyfan ar ein pennau ein hunain. Mae'r cymorth diweddaraf gan y Llywodraeth yn rhan hanfodol o'r broses honno.” 

Unwaith y cyrhaeddir y targed o ran rhoi talebau i'r cynllun, mae angen i breswylwyr sicrhau eu bod wedyn yn dilysu eu talebau gyda'r Llywodraeth fel y gall Openreach gadarnhau bod gwaith adeiladu yn gallu mynd rhagddo.

Fel rhan o'r amodau cyllido, gofynnir i breswylwyr ymrwymo i archebu gwasanaeth ffeibr llawn gan ddarparwr o'u dewis am o leiaf 12 mis unwaith y bydd y rhwydwaith newydd ar gael a chadarnhau eu bod wedi'u cysylltu.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod 44,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru yn elwa o well cysylltedd diolch i bartneriaeth lwyddiannus rhwng Openreach a Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans,

Dyma gyhoeddiad i'w groesawu gan Openreach, sy'n cynnig potensial i Bentywyn a Glanyfferi elwa o well cysylltedd. 
Mae ardaloedd gwledig ac arfordirol fel y rhain yn dod yn fwy dibynnol ar gysylltedd digidol, nid yn unig at ddefnydd preswyl pob dydd, ond hefyd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddeniadol fel ardaloedd twristiaeth.
Mae'r cynllun talebau Gigabit yn rhoi cyfle i breswylwyr ddod at ei gilydd i ddatrys y broblem barhaus o ran band eang gwael.”

Mae technoleg ffeibr llawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy, gwydn a diogel yn y dyfodol, sy'n golygu llai o wallau, cyflymderau mwy cyson a rhagweladwy a digon o gapasiti i fodloni'r gofynion cynyddol o ran data yn hawdd. Bydd hefyd yn ddiogel yn y dyfodol, sy'n golygu y bydd yn gwasanaethu cenedlaethau i ddod ac na fydd angen ei uwchraddio am ddegawdau.

Mae ffeibr optig - llinynnau o wydr tua degfed ran o drwch blewyn dynol - yn trosglwyddo data gan ddefnyddio signalau golau. Mae ffeibr yn llai, yn ysgafnach ac yn fwy gwydn na cheblau copr ac yn llai agored i niwed.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gysylltedd band eang yn Sir Gaerfyrddin, gallwch siarad â'ch Swyddog Ymgysylltu Band Eang lleol: Aled Nicholas – bandeang@sirgar.gov.uk

Ewch i wefan Openreach am fwy o wybodaeth am fand eang ffeibr Openreach.