Cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn helpu busnesau ledled Sir Gaerfyrddin
298 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn cefnogi busnesau ledled Sir Gaerfyrddin drwy gyfrwng Angor Cefnogi Busnesau y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nod y cymorth angor yw cryfhau busnesau ar bob cam o'u datblygiad, i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi.
Enghraifft o fusnes sy’n cael cymorth yw Precious Plastic, a fydd yn defnyddio lle yn 1 Rhodfa Stepney o 24 Ionawr tan 22 Mawrth 2024. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r cwmni, Blueprint, dreialu eu prosiect ar sail siop sionc.
Mae hyn yn rhoi cyfle i'r cwmni, Blueprint, dreialu eu prosiect ar sail siop sionc.
Nod Precious Plastic yw lleihau gwastraff a hyrwyddo cynaliadwyedd drwy greu cynhyrchion defnyddiol o wastraff plastig. Bydd y gofod sydd wedi'i gynnig i Blueprint yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad i gynnal gweithdai gyda'r gymuned leol, fel man i ddod â phlastig er mwyn iddo gael ei ailgylchu yn ogystal â gofod manwerthu i brynu cynhyrchion plastig wedi'u hailgylchu. Bydd y gofod hwn ar agor i'r cyhoedd o 12 Chwefror 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r cyllid a ddarperir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i'r sir o fudd sylweddol i fusnesau yn Sir Gaerfyrddin fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi datblygiad economaidd mewn cymunedau lleol. Byddwn yn annog busnesau lleol i ymweld â thudalen y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar wefan y Cyngor i weld pa gymorth sydd ar gael iddynt o dan y gronfa Cefnogi Busnesau Lleol.
Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch wneud cais i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ewch i'r dudalen we.
Os hoffech chi fynychu un o'r digwyddiadau cymunedol, anfonwch e-bost at james@blueprint.wales.