Mae Bouygues UK a Whitehead Building Services yn cefnogi prentisiaid trwy Gynllun Rhannu Prentisiaeth Cyfle
409 diwrnod yn ôl
Mae Bouygues UK a Whitehead Building Services wedi ymrwymo i gefnogi 10 prentis mecanyddol a thrydanol trwy gynllun prentisiaethau ar y cyd Cyfle.
Mae Cynllun Prentisiaid Sgiliau Adeiladu ar y Cyd Cyfle yn galluogi prentisiaid i gwblhau rhaglen brentisiaeth lawn trwy weithio gyda nifer o wahanol gyflogwyr lleol i ennill y setiau sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod yn gymwys. Bydd y prentisiaid mecanyddol a thrydanol (M&E) newydd yn gweithio i’r gadwyn gyflenwi yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y prosiect 83 erw nodedig, Pentre Awel, yn Llanelli.
Mae cynlluniau prentisiaethau ar y cyd yn helpu cyflogwyr sydd am gefnogi datblygu sgiliau wrth iddynt weithio ar gontractau rhanbarthol, ond nad ydynt mewn sefyllfa i gynnig prentisiaeth dymor llawn, ac sy’n awyddus i gefnogi hyfforddi gweithlu’r dyfodol.
Mae’r bartneriaeth yn galluogi Cyfle i gynyddu’r nifer o brentisiaethau mae’n recriwtio ar eu cyfer yn y grefft Fecanyddol a Thrydanol, a bydd yn creu etifeddiaeth o ran hyfforddiant a sgiliau a fydd yn darparu budd hirhoedlog i ranbarth Sir Gaerfyrddin.
Aeth y prentisiaid newydd i ddigwyddiad lansio ym Mhentre Awel, sef y datblygiad y datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Gâr. Pentre Awel yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru, a bydd yn dod ag arloesi ym meysydd gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn), ac ef yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru.
Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel Bouygues:
Mae pobl leol wrth wraidd y prosiect hwn ym Mhentre Awel. Mae Bouygues UK eisoes yn gweithio gyda llawer o isgontractwyr lleol ar safle Pentre Awel, yn rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau i bobl leol a grwpiau a dangynrychiolir.
Mae’r bartneriaeth hon gyda Whitehead Building Services a Cyfle yn golygu bod modd i ni recriwtio mwy o bobl leol fyth, ac mae’n galluogi prentisiaid i ddysgu llu o sgiliau adeiladu newydd. Yn ogystal ag M&E, mae prentisiaid crefftau eraill a fydd yn gallu dysgu sgiliau newydd, nid yn unig ym Mhentre Awel, ond mewn prosiectau eraill yn y rhanbarth. Mae Bouygues UK wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc ddawnus i ddod i mewn i’r diwydiant adeiladu, yn ogystal â thynnu sylw at fanteision y diwydiant adeiladu fel llwybr gyrfa.”
Ychwanegodd Hywel Morton, Cyfarwyddwr Prosiectau Whitehead:
Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn rhan o’r prosiect nodedig hwn, gan weithio gyda Bouygues UK. Busnes preifat o dan berchnogaeth deuluol ydyn ni, ac mae prentisiaethau wedi bod wrth wraidd ein llwyddiant am dros 45 mlynedd. Mae cefnogi prentisiaethau trwy gynllun prentisiaethau ar y cyd Cyfle yn golygu ein bod ni’n gallu sicrhau’r cyfleoedd mwyaf i’r cymunedau lleol, nid yn unig yn ystod cam adeiladu Pentre Awel, ond am gyfnod hir ar ôl i ni gwblhau’r prosiect.
Rydyn n’n cefnogi’r cynllun hwn trwy Cyfle ar ben ein hymrwymiad o’r naill flwyddyn i’r llall i hyfforddi trwy brentisiaethau. Ar 8 Medi, gwnaethon ni groesawu ein carfan newydd o 12 prentis i’n teulu Whitehead. Eleni, rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, gyda chyfanswm y prentisiaethau newydd yn fwy na 100 dros y 10 mlynedd diwethaf. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Bouygues UK a Cyfle, gan helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.”
Mae Andrew Morgan, 31, sy’n brentis M&E, yn dweud ei fod yn gyffrous i ddechrau arni:
Rydw i wastad wedi bod eisiau gweithio ym maes adeiladu, ac yn ddiweddar, es i yn ôl i’r coleg, gweld y cyfle hwn gyda Cyfle a gwneud cais. Mae’n dda ein bod ni’n gallu dysgu yn y gwaith a chael y cyfle i weithio ar brosiectau lleol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr.”
Dywedodd Euros Griffiths, cydlynydd lleoliadau Cyfle:
Mae ein Rhaglen Prentisiaethau ar y Cyd yn darparu hyfforddiant y mae mawr ei angen, a gweithwyr medrus ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Ngorllewin Cymru. Mae hwn yn gyfle gwych i’r prentisiaid ac mae’n wych iddyn nhw weld un o’r prosiectau y gallen nhw fod yn gweithio arnyn nhw yn y camau cynnar, gan wybod y byddan nhw’n cymryd rhan mewn rhyw ffordd ar y safle.”