Cabinet yn rhoi sêl bendith i ddatblygu polisi ar ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr

311 diwrnod yn ôl

Heddiw, 18 Medi, mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu dull polisi cynllunio newydd ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Sir Gaerfyrddin.

Mewn ymateb i ymchwil ar effaith ail gartrefi a llety tymor byr ar farchnadoedd a chymunedau tai ledled Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfres o fesurau gyda'r nod o ddarparu mwy o reolaethau mewn perthynas â defnyddio eiddo fel ail gartrefi a llety masnachol tymor byr.

Mae'r rhain yn cynnwys rhoi'r gallu i awdurdodau lleol godi hyd at 300% ar y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi, cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety tymor byr a newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio.

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar ail gartrefi ac eiddo gwag, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gynharach eleni y bydd yn cyflwyno premiymau treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir, a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2024.

Wrth bleidleisio i ddatblygu dull polisi newydd ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Sir Gaerfyrddin, mae'r Cabinet wedi caniatáu i'r Cyngor fframio'r ffordd ymlaen wrth ddatblygu dull polisi cynllunio a fydd yn amlygu'r ystyriaethau sylfaenol a'r mecanweithiau posibl i reoli'r newid defnydd digyfyngiad rhwng y dosbarthiadau defnydd newydd o eiddo.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau

Mae penderfyniad y Cabinet heddiw yn hollbwysig i sicrhau bod yr Awdurdod yn ymateb i'r newidiadau deddfwriaethol ynghyd â'r goblygiadau a'r effeithiau y mae ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn eu cael ar gymunedau Sir Gaerfyrddin.”