Sir Gâr yn lansio Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg

336 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Gâr wedi cymeradwyo'i Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg, sydd wedi ei ddatblygu ar y cyd gyda phartneriaid Fforwm Strategol y Gymraeg yn y sir, ac le gwell felly, i’w lansio yn swyddogol, nag ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023. 

Lawnsiwyd Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg Sir Gâr heddiw, dydd Iau, 1 Mehefin, mewn digwyddiad a chafodd ei gadeirio gan Meri Huws, cyn Gomisinydd yr Iaith Gymraeg a Chadeirydd Fforwm Strategol y Gymraeg Sir Gaerfyrddin. 

cliciwch yma i ddarllen Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg Sir Gâr

Nod y Strategaeth yw i anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y Sir. Ein nod ni, fel Cyngor Sir a’n partneriaid, yw i adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd o fywyd. 

Mae’r welediaeth a osodir yn y Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg yn un arolesol ac uchelgeisiol. Mae Cyngor Sir Gâr a’i bartneriaid eisiau gweld cynnydd yng nghyfran y Sir sydd yn gallu siarad Cymraeg ac yn defnyddio’u Cymraeg yn gyson. 

Rydym eisiau gweld y Gymraeg yn norm gweithio a gweithredu yn sefydliadau cyhoeddus y Sir ac yn fwyfwy cyffredin ym musnesau’r Sir. Rydyn ni eisiau i’n pobl ifanc weld dyfodol iddynt yn y Sir mewn cymunedau Cymraeg cynaliadwy a ffyniannus, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. 

Rydym eisiau i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr. 

Amlygodd Canlyniadau Cyfrifiad Poblogaeth 2021 a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod gan Sir Gaerfyrddin y ganran uchaf o ran gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ymysg yr holl siroedd yng Nghymru, a hynny am yr ail ddegawd yn olynol. 

Gan gydnabod y gostyngiad dychrynllyd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, trwy gydweithio gyda’n partneriaid, mae'r awdurdod lleol yn gweithredu'n gadarn ac yn hyderus i atal y duedd niweidiol hon a bydd yn nodi ei gynlluniau wrth lansio ei Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. 

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: “Mae defnydd y Gymraeg yn Sir Gâr a’i pharhad yn gwbl hanfodol i barhad y Gymraeg yng Nghymru.

“Mae'r gostyngiad o ran nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau yn bryder mawr ac yn fater y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Bydd y strategaeth hon yn rhan annatod o'n hymrwymiad i newid y sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin ac rwy'n credu y bydd yn darparu esiampl i Gymru gyfan ei dilyn. 

“Hoffwn ddiolch i holl bartneriaid y Cyngor Sir am eu parodrwydd i gydweithio, trwy Fforwm Strategol y Gymraeg y Sir, i ddatblygu Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg, y mae'r Cyngor yn statudol gyfrifol amdani. Ni fyddai wedi bod yn bosib i gyflwyno’r Strategaeth heb gefnogaeth lawn y Fforwm ac rwy'n edrych ymlaen at gyfnod arall o bum mlynedd o gydweithio er budd y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. 

“Rwy'n falch iawn i fedru lansio Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr. Gŵyl ieunectid yw hon, ar ieuenctid fydd yn cario’r iaith i’r genhedlaeth nesaf. Mae'n bwysig, felly, ein bod yn edrych tua'r dyfodol yn hyderus er mwyn hybu hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith ar draws pob agwedd ar eu bywydau.”