Ymunwch â Grŵp Rhanddeiliaid Bwrdd Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru

343 diwrnod yn ôl

Ydy iechyd ein hafonydd yn bwysig ichi? A oes gennych ddiddordeb mewn ansawdd dŵr yn y rhanbarth, a ydych yn gyfrifol amdano neu a yw'n effeithio arnoch? Os felly, beth am ymuno â'r Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd i helpu i weithio i ddiogelu ac i wella afonydd Cleddau, Teifi a Thywi.

Mae'r Byrddau Rheoli Maetholion yn chwilio am aelodau newydd i sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid i helpu i ddatblygu Cynllun Rheoli Maetholion ar gyfer ardal Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Wrth ddod yn aelod o'r Grŵp Rhanddeiliaid, gallwch:

  • Helpu i adfer ac i ddiogelu iechyd ein hafonydd.
  • Profi syniadau newydd, technoleg, a dysgu am fesurau lliniaru.
  • Cyfarfod â phobl a sefydliadau o'r un meddylfryd sy'n ceisio cyflawni'r un nod cyffredin.

Os oes gennych ddiddordeb, dewch i'r Digwyddiad i Randdeiliaid Afonydd a gynhelir yn Ystafell Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin ddydd Mercher, 31 Mai 2023 rhwng 10am a 4pm.  Darperir cinio ysgafn a lluniaeth.

Mae llygredd ffosfforws yn nalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Cymru yn fater difrifol sydd y tu hwnt i atebion hawdd, ac mae mwy na 60% o'n hafonydd ACA mwyaf gwerthfawr yn methu o ran y targedau ffosffad. Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Gorllewin Cymru, sef Afon Cleddau, Afon Teifi ac Afon Tywi, yn cefnogi rhai mathau o fioamrywiaeth mwyaf gwerthfawr y wlad ac yn ffynonellau pwysig i'w cymunedau o ran iechyd a llesiant.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain Cymru yn yr ymdrech i fynd i'r afael â gormod o faetholion sy'n mynd i'r dyfrffyrdd. Sir Gaerfyrddin oedd y sir gyntaf yng Nghymru i ddylunio Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion ac, ynghyd â Chynghorau Sir Penfro a Cheredigion, mae wedi sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd Gorllewin Cymru, sy'n ymestyn ar draws ffiniau'r siroedd ac yn ystyried y tri dalgylch afon.

Nid yw'r mater o ran ffosfforws yn un y gellir ei reoli ar wahân gan fod llwythi gormodol o faetholion yn tarddu o sawl ffynhonnell. I gael ateb mae angen ymwneud â'r holl randdeiliaid sy'n gyfrifol am fewnbynnau o'r fath.

Ynghylch y Bwrdd Rheoli Maetholion

Mae'r Bwrdd Rheoli Maetholion yn gyfrifol am nodi a gweithredu camau sy'n cyrraedd targed cadwraeth afon, a ystyrir yn Ardal Cadwraeth Arbennig, sy'n ffafriol o ran ffosfforws (SAC), yn ogystal â diwallu anghenion economaidd-gymdeithasol ei chymunedau cyfagos. Mae tri Bwrdd Rheoli Maetholion wedi cael eu ffurfio yng ngorllewin Cymru; Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Tywi, Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Cleddau a Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Teifi.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Arweinydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio: "Mae afon Tywi, ynghyd ag afonydd Cleddau a Theifi, yn Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae'n adnodd naturiol gwerthfawr i Sir Gaerfyrddin ac i fioamrywiaeth y sir, ac mae hefyd yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant y cymunedau y mae'n llifo trwyddynt a'r rhai cyfagos.

“Mae angen defnyddio dull amlhaen i fynd i'r afael â llygredd ffosfforws ac felly rwy'n annog pobl o wahanol gefndiroedd, sy'n gofidio'n fawr am iechyd ac ansawdd dŵr ein hafonydd, i gamu ymlaen i chwarae eu rhan wrth ddatblygu Cynllun Rheoli Maetholion.”

Cynhelir y digwyddiad i Randdeiliaid Afonydd yn Ystafell Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin ddydd Mercher, 31 Mai 2023 rhwng 10am a 4pm. 

Mae gwahoddiad agored i bawb, ond i helpu i drefnu'r lluniaeth, gofynnir ichi ymateb eich bod yn bwriadu bod yn bresennol trwy gysylltu â Laurel E Carrington, Swyddog Rheoli Maetholion ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin: lecarrington@sirgar.gov.uk