Ymateb Partneriaid i fwriad gan y Swyddfa Gartref

276 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael gwybod am fwriad gan y Swyddfa Gartref i ystyried defnyddio Gwesty Parc y Strade, Llanelli i ddarparu llety i nifer fawr, y credir ei fod dros 300, o geiswyr lloches.

Cynllun dan arweiniad y Swyddfa Gartref yw hwn, ac felly dylid cyfeirio pob ymholiad gan y wasg i'r Swyddfa Gartref ar 0300 123 3535.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn poeni'n ddirfawr am y risgiau sydd ynghlwm wrth y bwriad hwn, ac wedi dwyn eu pryderon at sylw'r Swyddfa Gartref.

Ymhlith y pryderon hyn mae'r effaith ar gydlyniant y gymuned leol, yr effaith ar ddarparu gwasanaethau yn cynnwys y lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion a mynediad at wasanaethau iechyd lleol a meddygon teulu, a'r risg ac addasrwydd y llety i'r ceiswyr lloches eu hunain.

Dywed Cyngor Sir Caerfyrddin fod y lleoliad hwn yn gwbl anaddas at y diben dan sylw ac mae o’r gred byddai angen caniatâd cynllunio i gamu ymhellach.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi’n llawn a chyflwyno'n llwyddiannus y model gwasgaru a ddefnyddir ar hyn o bryd i ailsefydlu ceiswyr lloches o Syria, Affganistan, Wcráin, a cheiswyr lloches cyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r dull gwasgaru o ddarparu llety yn fwy cynaliadwy o ran cynnig ateb llawer mwy hirdymor i geiswyr lloches, yn enwedig yn rhywle fel Sir Gâr.

Cred y Cyngor fod gan y model o letya nifer fawr o geiswyr lloches ar un safle y potensial i danseilio'r cynllun gwasgaru yn llwyr, ac nad dyma'r ffordd briodol o letya pobl sy'n ceisio lloches.  Er nad yw’r Cyngor wedi gweld yr hyn mae’n ei dybio sy'n gynllun manwl, mae'r ymgysylltu â’r Swyddfa Gartref hyd yn hyn wedi bod yn anghyson ac wedi diystyru’r holl bryderon dilys. Mae'r bwriad a'r ymgysylltu gan Clearsprings (darparwr tai preifat y Swyddfa Gartref) wedi bod yn siomedig, ac nid yw hynny’n rhoi unrhyw hyder i’r Cyngor bod Clearsprings yn deall y cyd-destun lleol neu genedlaethol maent yn bwriadu gweithio ynddo. 

Bydd y Cyngor a’i bartneriaid sector cyhoeddus yn cadw mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref ynghylch y mater hwn, gyda golwg ar argymell yn gryf nad ydynt yn bwrw ymlaen â'r bwriad hwn ac i barhau â’r gwaith o ddarparu’r model gwasgaru a ddefnyddir ar hyn o bryd.  

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rydym ni yn Sir Gâr yn sir groesawgar ac mae gyda ni hanes llwyddiannus o ran cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r model gwasgaru wedi gweithio’n dda yma, ac rydym ni’n awyddus i barhau i dderbyn ein siâr ni o geiswyr lloches.

“Rydym ni eisoes wedi rhoi cartref i nifer sylweddol o aelwydydd sy’n ceisio lloches o Syria, Affganistan, Wcráin a llefydd eraill, ond cyflawnwyd hynny trwy ddull o gydlynu a chynllunio. Dyna’r rheswm mae'r lleoliadau hynny wedi bod yn llwyddiannus.

“Fel Cyngor, mae gyda ni bryderon difrifol ynghylch bwriad y Swyddfa Gartref i letya dros 300 o geiswyr lloches mewn un man, sef Gwesty Parc y Strade. Rydym ni o’r farn bydd hynny’n cael effaith niweidiol ar y gymuned leol ac yn rhoi straen enfawr ar wasanaethau addysg ac iechyd. Hefyd rydym ni’n credu byddai cartrefu cynifer o bobl yn y lle eithaf cyfyngedig hwn yn arwain at broblemau o ran lles y ceiswyr lloches eu hunain.”

“Yn ogystal, mae'r gwesty'n cael ei ddefnyddio'n aml nid yn unig at ddibenion twristiaeth ond hefyd ar gyfer digwyddiadau cymunedol a phriodasau, ac mae'n agos at rai o brif atyniadau'r sir fel Parc Gwledig Pen-bre a Llwybr Arfordir y Mileniwm, ynghyd â Phenrhyn Gŵyr.

“Byddai colli’r gwesty hwn yn ergyd i'r economi leol ac yn effeithio ar deuluoedd lleol a’r gymuned leol.”

 

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “O safbwynt lleol, a chenedlaethol, mae'r diffyg cynllunio strategol gan y Swyddfa Gartref o ran llety dros dro i geiswyr lloches yn destun pryder mawr i mi.   

“Does dim cyfathrebu wedi bod yn lleol nac unrhyw fath o ymgynghori â darparwyr gwasanaethau lleol i ddeall effaith lleoli dros 300 o geiswyr lloches ar un safle yn Llanelli.  Bydd hyn yn arwain at roi pwysau diangen ar adnoddau lleol a darparwyr gwasanaethau unwaith eto, a fydd nawr yn gweithio'n ddiflino i wneud y gorau o'r sefyllfa anodd hon.”

 

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Fel Cenedl Noddfa, ni ddylem byth ag anghofio'r drasiedi ddynol sy'n gyrru pobl i wynebu'r peryglon o deithio i'n glannau er mwyn ceisio lloches. Yn aml, byddant wedi wynebu trawma ac amddifadedd, sy'n effeithio ar eu hiechyd corfforol a'u llesiant meddyliol. Felly mae'n hanfodol bod eu hanghenion gofal iechyd, yn ogystal â rhai'r gymuned leol ehangach, yn cael eu hystyried yn llawn a darperir ar eu cyfer cyn rhoi unrhyw gynlluniau adleoli ar waith." 

 

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith, Aelod Seneddol: “Mae'n gywilyddus bod y Swyddfa Gartref yn chwilio am fwy fyth o lety mewn gwesty, ac yn disgwyl i'r Cyngor Sir, er yr holl gyfrifoldebau eraill sydd ganddo, i gamu i mewn a darparu'r gwasanaethau angenrheidiol. Rwy'n deall yn iawn pam mae pryderon posib gan drigolion lleol, a bydda' i'n eu codi gyda'r Swyddfa Gartref.”

 

Ychwanegodd Lee Waters, Aelod o’r Senedd: "Rydym ni'n gymuned groesawgar ac am gyfrannu at y gwaith o roi noddfa i bobl hynod fregus sydd wedi dioddef trawma sylweddol. Ond dyw'r model hwn o letya nifer fawr o geiswyr lloches ar un safle ddim yn synhwyrol. Fe wnawn ni i gyd ein gorau i wneud i'r peth weithio, ond nid dyma'r ffordd iawn o fynd ati."

 

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Palfreman a'r Cynghorydd Edward Skinner, y ddau yn cynrychioli ward Hengoed: “Fel Cynghorwyr lleol, rydym ni'n deall y bydd pryderon gwirioneddol yn Ffwrnes a'r ardaloedd cyfagos am y cynlluniau hyn. Bydd trigolion lleol yn poeni am yr effaith bosib ar y gymuned, fel pwysau ychwanegol ar wasanaethau lleol. Fodd bynnag, achos llawn cymaint o bryder yw’r ffaith byddai pobl fregus sydd wedi ffoi rhag perygl yn eu gwledydd eu hunain yn cael eu gorfodi i fyw mewn amodau mor gyfyng, heb hawl i weithio na chwarae rhan lawn yn y gymdeithas, wrth iddyn nhw aros i'w ceisiadau am loches gael eu prosesu. Does neb ar eu hennill mewn sefyllfa o'r fath. Byddwn yn monitro datblygiadau lleol yn agos ac yn annog unrhyw un sydd â phryderon penodol i gysylltu â ni'n uniongyrchol”.